Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Sut rydym yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol

Rydym yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i roi gwybod i breswylwyr am newyddion, ymgynghoriadau, digwyddiadau a gwasanaethau'r Cyngor. Rydym yn ailbostio cyfrifon sy'n rhannu gwybodaeth ddefnyddiol i breswylwyr Caerdydd.

Dilynwch ni ar X
x​.com/cyngorcaerdydd

Hoffwch ni ar Facebook​
facebook.com/cyngorcaerdydd​ 

Rydym hefyd ar YouTube a Instagram​.

Oes angen i chi gysylltu â ni?

Os oes gennych gwestiwn neu os oes angen i chi roi gwybod i ni am rywbeth, defnyddiwch ein cyfrifon gwasanaethau cwsmeriaid.

​​Dilynwch ni ar X
x.com/H​elp_C2C​

Hoffwch ni ar Facebook​
facebook.com/C2CHelp

Dilynwch ni ar Instagram
instagram.com/c2c_help/

 

​Am beth fyddwn yn Trydar?

Rydym am roi'r newyddion diweddaraf am y cyngor a'r gymuned i'n dilynwyr. Os dilynwch ni gallwch ddisgwyl: 

 

Sut y byddwn yn rheoli negeseuon trydar a dderbyniwn @cyngorcaerdydd

Anelwn i ymateb i gymaint o atebion, sylwadau a cheisiadau ag y gallwn yn ystod oriau swyddfa.

Weithiau bydd ein tîm monitro yn anfon eich cwestiwn i wasanaethau cwsmeriaid neu dimoedd eraill i ddod o hyd i'r wybodaeth yna i chi.

Golyga hynny y gall gymryd peth amser cyn y gallwn ddod nôl atoch chi. Byddwn yn dweud wrthych pan fyddwn yn gwneud hyn ac o dro i dro byddwn yn eich e-bostio neu anfon neges uniongyrchol atoch yn hytrach na'ch ateb ar eich ffrwd X.

Os dilynwch ni ar X, efallai y byddwn yn eich dilyn yn ôl. Nid yw'r ffaith ein bod yn eich dilyn yn awgrymu cymeradwyaeth o unrhyw fath. Os yw eich ymholiad yn un brys, difrifol neu'n cynnwys manylion personol ffoniwch 029 2087 2088.

 

Adrodd am faterion i ni

Mae nifer o sianelau gennym i gysylltu â ni er mwyn sôn am faterion. Dysgwch fwy yn ein hadran Cysylltu â ni.

Os adroddwch fater i ni ar X a'ch bod wedi rhoi digon o wybodaeth er mwyn i ni weithredu, byddwn yn adrodd arno ar eich rhan. Os bydd angen mwy o wybodaeth arnom gennych, efallai y byddwn yn eich cyfeirio at un o'n ffurflenni ar-lein.

 

Ein hargaeledd

Byddwn yn diweddaru ac yn monitro ein cyfrifon yn ystod oriau swyddfa, Dydd Llun i Ddydd Gwener. O dro i dro efallai na fydd X ar gael ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddiffyg gwasanaeth yn ystod cyfnodau pan nad yw X ​ar gael.