BOBi yw ein SgyrsBot dwyieithog newydd sydd wedi'i ddyfeisio i ateb eich cwestiynau a'ch helpu i gael mynediad at wasanaethau. Gall ein SgyrsBot gynnig profiad mwy uniongyrchol i gwsmeriaid trwy ddarparu atebion ar unwaith, a llai o amser yn aros i gysylltu â'n canolfan alwadau.
Mae BOBi ar gael unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos pan fydd yn gyfleus i chi.
Gyda beth all BOBi eich helpu?
Gall BOBi ateb cwestiynau a rhoi gwybodaeth am wasanaethau gwahanol, fel:
- Ailgylchu a gwastraff
- Ysgolion
- Y Dreth Gyngor a budd-daliadau
- Parcio, ffyrdd a theithio
- Tai
- Dirwyon
- Etholiadau.
Gallwch ofyn cwestiynau i BOBi fel:
- Pryd mae fy miniau neu fy magiau yn cael eu casglu?
- Pwy yw'r cynghorydd dros fy ardal?
- Sut ydw i'n talu dirwy parcio?
- Sut ydw i'n talu'r dreth gyngor?
Rydym bob amser yn ceisio gwella a diweddaru'r gwasanaethau y gall BOBi eu rheoli. Rydym yn defnyddio eich awgrymiadau a'ch adborth i wneud ein SgyrsBot mor ddefnyddiol ag y gall fod.
Mae BOBi yn dysgu gwybodaeth newydd o'r cwestiynau rydych chi'n eu gofyn. Po fwyaf o gwestiynau y mae BOBi yn eu hateb, y mwyaf defnyddiol y mae ein SgyrsBot yn dod
Gallwch lenwi'r ffurflen adborth ddigidol os hoffech adael sylwadau neu wneud awgrymiadau am ein SgyrsBot a'i wasanaethau.
Sut mae defnyddio BOBi?
Bydd angen i chi ddarllen yr hysbysiad preifatrwydd a'i dderbyn cyn y gallwch ddechrau defnyddio ein SgyrsBot.
Bydd eicon BOBi yn ymddangos yng nghornel dde isaf ein tudalennau gwe. Gallwch glicio arno i ehangu'r ffenestr a dechrau gofyn cwestiynau.
I ddod o hyd i'r wybodaeth rydych chi'n chwilio amdani, gallwch deipio'ch cwestiynau neu glicio ar yr opsiynau y mae BOBi yn eu darparu yn ystod y sgwrs. Gofynnwch gwestiynau am un pwnc ar y tro, gan fod BOBi yn ei chael hi'n haws rheoli hyn. Os hoffech ddechrau'r sgwrs eto, gallwch deipio 'ailddechrau' ar unrhyw adeg.
Mae BOBi bob amser yn dysgu, ac efallai y bydd adegau pan na all ein SgyrsBot ateb cwestiwn penodol. Os bydd hyn yn digwydd, bydd BOBi yn eich ailgyfeirio i'r lle cywir fel y gellir ateb eich ymholiad.
Gallwch leihau'r ffenestr sgwrsio a dod yn ôl i'r sgwrs ar unrhyw adeg trwy glicio ar eicon BOBi. Bydd hanes eich sgwrs yn aros yn y sgwrs nes i chi gau eich tab.
Mae eich data'n ddiogel gyda ni
Rydym yn ymrwymo i gadw'ch gwybodaeth a'ch manylion yn ddiogel ac i gydymffurfio â'r gyfraith.
