Mae ailddatblygu Glanfa'r Iwerydd yn flaenoriaeth strategol allweddol i'r ddinas, gyda gwaith eisoes ar y gweill ar yr arena dan do newydd â lle i 16,500 o bobl. Bydd Cronfa Twf Glanfa'r Iwerydd y GTLl yn cefnogi busnesau o fewn ward Butetown i ail-lansio, datblygu, tyfu a gwneud y mwyaf o'r cyfle a ddarperir gan fwy o ymwelwyr, gwariant a gwelededd o ganlyniad i ailddatblygu Glanfa'r Iwerydd. Bydd y gronfa newydd ar gael i gwmnïau Butetown sy'n bodloni'r meini prawf canlynol:
- Cwmni cyfyngedig, menter gymdeithasol, CBC cofrestredig neu elusen. Yn anffodus, nid yw Unig Fasnachwyr yn gymwys.
- Gyda throsiant gweithredu yn ystod y 3 blynedd diwethaf uwchlaw'r trothwy TAW (£90,000)
- Busnes sefydledig sydd wedi bod yn masnachu ers dros 2 flynedd.
- Busnes wedi'i leoli yn ward Butetown ac sydd â chyfeiriad yno
- BBaCh (llai na 250 o weithwyr a throsiant blynyddol o dan €50 miliwn).
Bydd ceisiadau busnes yn cael eu hystyried ar gyfer buddsoddiadau sy'n cysylltu â Strategaeth Adfer Cryfach, Tecach, Gwyrddach y ddinas, ac sy'n cyflawni'r canlynol:
- Creu Swyddi a diogelu swyddi - bydd hyn yn cael ei fonitro dros gyfnod o 12 mis
- Twf mewn cynhyrchiant, gan sicrhau cynnydd mewn trosiant neu gyfran o'r farchnad
- Mwy o hygyrchedd a chyfleoedd i gymunedau lleol
Bydd y Gronfa Twf yn cynnwys:
- Grantiau o £1,000 i £20,000
- Ar gael i fusnesau sydd â chyfeiriad busnes cofrestredig yn ward Butetown
- Angen 2 ddyfynbris ar gyfer gwariant y prosiect
- Bydd y grant yn 75% o gyfanswm gwariant y prosiect ac eithrio TAW
- Ni ddylid bod wedi rhoi blaendal ar gyfer eitemau na bod wedi ymrwymo i'w prynu cyn cael cymeradwyaeth.
Bydd angen i ymgeiswyr hefyd ddangos a all cyllid grant helpu i gyfrannu at les economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Caerdydd.
Byddwn yn ystyried ceisiadau dros £20,000 ar gyfer prosiectau strategol sy'n canolbwyntio ar greu swyddi a buddsoddi mewn prosiectau cyfalaf mawr. I gael gwybod mwy, e-bostiwch [email protected]
Sylwch fod y gronfa yn amodol ar y Cyngor yn derbyn cymeradwyaeth i'r gyllideb derfynol.
Noddyn canllaw
Mae ailddatblygu Glanfa'r Iwerydd yn flaenoriaeth strategol allweddol i'r ddinas, gyda gwaith eisoes ar y gweill ar yr arena dan do newydd â lle i 16,500 o bobl. Bydd Cronfa Twf Glanfa'r Iwerydd y GTLl yn cefnogi busnesau o fewn ward Butetown i ail-lansio, datblygu, tyfu a gwneud y mwyaf o'r cyfle a ddarperir gan fwy o ymwelwyr, gwariant a gwelededd o ganlyniad i ailddatblygu Glanfa'r Iwerydd.
Pwy sy'n gallu gwneud cais?
- Cwmni cyfyngedig, menter gymdeithasol, a CBC neu elusen gofrestredig. Yn anffodus, nid yw Unig Fasnachwyr yn gymwys.
- Busnes gyda throsiant gweithredu yn ystod y 3 blynedd diwethaf uwchlaw'r trothwy TAW (£90,000)
- Busnes sefydledig sydd wedi bod yn masnachu am dros 2 flynedd
- Busnes wedi'i leoli ac sydd â chyfeiriad yn Ward Butetown
- BBaCh (llai na 250 o weithwyr a throsiant blynyddol o dan €50 miliwn)
Sut mae busnesau'n gallu ymgeisio?
Os yw'r busnes yn bodloni'r meini prawf uchod, yna gellir gofyn am ffurflen gais trwy gyfeiriad e-bost y gronfa:
[email protected] neu [email protected]
Sylwch fod pob maes yn orfodol - bydd methu â'u cwblhau yn golygu y caiff eich cais ei wrthod.
Caiff ceisiadau eu trin ar sail y cyntaf i'r felin. Gallai hyn olygu na fydd ceisiadau'n cael eu gwerthuso ar ôl iddynt gael eu cyflwyno os yw'r holl arian eisoes wedi'i ddyrannu. Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am hyn trwy e-bost. Sylwch y rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr nad oeddent wedi derbyn cyllid o Gronfa Twf Caerdydd flaenorol. Mae ymgeiswyr yn cael eu hannog i gyflwyno cais cyn gynted â phosibl.
Mae gan yr Awdurdod Lleol ddisgresiwn llwyr o ran hyd a thelerau'r gronfa.
Faint o grant sydd ar gael i fy musnes?
Mae Cronfa Twf Glanfa'r Iwerydd y CTLl yn agored i geisiadau am grantiau rhwng £1,000 ac £20,000 i fusnesau sydd â'u cyfeiriad busnes cofrestredig yn ward Butetown. Bydd y dyfarniadau grant yn 75% o gyfanswm gwariant y prosiect ac eithrio TAW. Ni ddylid bod wedi rhoi blaendal ar gyfer eitemau grant cymwys nac ymrwymo i'w prynu cyn cael cymeradwyaeth.
Beth gellir defnyddio'r grant tuag ato?
Gallai enghreifftiau o wariant cyfalaf cymwys gynnwys:
- Peiriannau a chyfarpar
- Teledu cylch cyfyng, arwyddion, gwelliannau i eiddo masnachol
- Ffitio adeiladau masnachol (yn fewnol neu'r blaen)
- Dyfeisiau arbed ynni megis goleuadau LED a synwyryddion symud clyfar
Gwariant Anghymwys
- Prynu eiddo
- Costau gweithredu/refeniw arferol neu barhaus (gan gynnwys rhenti, ardrethi, yswiriant, cyflogau, rhenti parhaus).
- Prynu masnachfraint
- Costau refeniw cyffredinol
- Prynu nwyddau/stoc at bwrpas gwerthu
- Prynu nwyddau neu offer at ddiben rhentu
- Prynu cerbydau
Sylwer nad yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr.
Pa wybodaeth y bydd angen i mi ei rhoi?
- Ffurflen gais wedi'i chwblhau a'i llofnodi
- 2 ddyfynbris sy'n ymwneud â phob elfen o wariant cymwys
- Rhagolygon llif arian 12 mis a chyfrifon dwy flynedd
- Os oes angen caniatâd cynllunio neu newid defnydd sy'n ymwneud â safle/adeilad masnachol ar gyfer y prosiect, yna bydd angen darparu tystiolaeth o gymeradwyaeth cyn y gellir cymeradwyo grant
- Prawf o'r arian sydd ar gael, boed hynny mewn cyfrif busnes neu'n fenthyciad, i alluogi pryniant 100% cyn hawlio grant
- Manylion o fewn y cais am allbynnau a chanlyniadau'r cyllid posibl
Beth sy'n digwydd ar ôl i'r cais ddod i law?
Byddwn yn cydnabod derbyn eich cais o fewn 10 diwrnod gwaith.
Gwneir penderfyniadau ar geisiadau ar sail yr wybodaeth a gyflwynir yn y ffurflen gais, y dystiolaeth gysylltiedig a'r gwiriadau gwybodaeth a wneir o ffynonellau data busnes eraill. Os yw unrhyw ddata yn anghyflawn neu'n anghywir neu os yw'r dystiolaeth a gyflwynwyd yn annigonol, ni fyddwn yn gallu prosesu'r cais a chaiff ei wrthod.
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cael llythyr cymeradwyo yn nodi'r cynnig grant a thelerau ac amodau'r grant. Ar y cam hwn, mae'r busnes yn gallu ymgymryd â'r gwariant prosiect a nodir yn y cais ac yna darparu tystiolaeth o anfonebau sydd wedi'u talu a chyfriflenni banc fel tystiolaeth o wariant yn erbyn yr eitemau cymwys. Ar ôl i'r anfonebau hyn gael eu derbyn a'u gwirio, bydd y taliad grant yn cael ei wneud.
Bydd angen i ymgeiswyr hefyd gydnabod cymorth gan y Gronfa Twf Lleol a chytuno bod y busnes neu'r sefydliad yn gallu cael ei ddefnyddio mewn gweithgareddau hyrwyddo sy'n gysylltiedig â'r Gronfa Twf Lleol.
Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael e-bost yn amlinellu'r rheswm/rhesymau dros wrthod. Nid oes proses apelio.
Os yw'r busnes yn llwyddo i gael grant, beth sy'n digwydd wedyn?
Bydd y Cyngor yn gofyn am wybodaeth a thystiolaeth yn achlysurol gan y busnes i fonitro'r allbynnau a roddwyd o fewn cais cymeradwy'r busnes (twf swyddi, cynnydd mewn trosiant, gwelliannau amgylcheddol ac ati).
Dylai ymgeiswyr nodi y gallai fod angen ad-dalu'r grant yn llawn neu'n rhannol i'r Awdurdod Lleol os daw tystiolaeth i law nad oedd yr ymgeisydd yn gymwys ar gyfer Cronfa Busnes Caerdydd y CTLl.
Mae gan Gyngor Caerdydd ddisgresiwn llwyr dros delerau, cymhwysedd a'r penderfyniadau a wneir ynglŷn â dyfarniadau grant Cronfa Busnes Caerdydd y CTLl ac mae'n cadw'r gallu i ddiwygio meini prawf ar unrhyw adeg.
Rhaid i geisiadau am grant roi gwerth am arian mewn perthynas â'r ymyriadau allweddol, allbynnau a chanlyniadau allweddol a sefydlwyd gan Gronfa Twf Lleol y DU.
