Noder bod y Ceisiadau ar gyfer Cynllun Grant Lleihau Allyriadau Hacni Caerdydd (CHERG) wedi cau.
Os ydych yn yrrwr tacsi yng Nghaerdydd gyda cherbyd Hacni, gallech gael grant i uwchraddio i Gerbyd Trydan Batri (BEV) neu Euro 6.
Sut gallaf wneud cais?
Gallwch wneud cais am y grant os:
- rydych yn berchen ar Gerbyd Hacni cofrestredig sydd wedi'i drwyddedu gyda ni ers 1 Chwefror 2024,
- rydych yn byw yng Nghaerdydd, a'ch tacsi wedi'i gofrestru i'ch cyfeiriad cartref,
- gyrru tacsi yw eich prif ffynhonnell incwm, ac
- rydych wedi defnyddio'ch tacsi yn weithredol dros y 3 mis diwethaf.
Gofynnwch am ffurflen gais drwy e-bostio: [email protected]
Caiff ceisiadau eu trin ar sail y cyntaf i'r felin. Pan fydd y gronfa lawn wedi'i dyfarnu, ni fyddwn yn ystyried rhagor o geisiadau. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi.
Ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.
Mae gennym yr hawl i newid y telerau, neu gau'r gronfa ar unrhyw adeg.
Faint gallwn i ei gael?
Gallech gael rhwng £5,000 a £10,000 i uwchraddio i dacsi mwy effeithlon.
Y cyllid ar gyfer Cerbydau Safonol a Cherbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn (WAV) yw:
| Uwchraddio tacsi | Grant Cerbyd Safonol | Grant WAV |
|---|---|---|
| Ewro 3 i Ewro 6 | £6,000 | £7,000 |
| Ewro 4 i Ewro 6 | £6,000 | £7,000 |
| Ewro 5 i Ewro 6 | £5,000 | £6,000 |
| Unrhyw gerbyd i Gerbyd Trydan Batri (BEV) | £10,000 | £10,000 |
Os ydych yn gwneud cais am BEV, byddwch yn cael hyd at £5,000 ar ôl i chi brynu eich cerbyd newydd. Byddwch wedyn yn cael ail daliad o hyd at £5,000 ar ôl 12 mis, os:
- yw eich tacsi yn dal i fod wedi'i gofrestru, a'ch bod
- wedi defnyddio'ch tacsi yn weithredol dros y 6 mis diwethaf.
Sylwer mai cynllun prawf yw'r gronfa. Byddwn yn rhannu grantiau'n deg i bob math gwahanol o gerbydau, a byddwn yn adolygu ceisiadau yn rheolaidd.
Beth sydd angen i fi ei wneud i ymgeisio?
Bydd angen y canlynol arnoch:
- ffurflen gais gyflawn â llofnod,
- prawf o'ch cyfeiriad,
- copi o lyfr log V5 y cerbyd rydych chi am ei uwchraddio,
- dogfennau yswiriant tacsi a thrwydded weithredol (mae hyn yn dystiolaeth bod eich tacsi wedi cael ei ddefnyddio'n weithredol yn ystod y 3 mis diwethaf), a
- phrawf o falans banc (i ddangos bod gennych ddigon o arian i brynu'r cerbyd cyn i chi gael y grant).
Dim ond un cais y gellir ei wneud fesul cyfeiriad.
Byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau ein bod wedi derbyn eich cais. Ni allwch brynu neu ymrwymo i brynu cerbyd newydd nes ein bod wedi cynnig grant i chi.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Byddwn yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar y wybodaeth a'r dystiolaeth yn eich cais. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn anfon e-bost atoch yn amlinellu'r rheswm/rhesymau dros wrthod. Ni fyddwch yn gallu apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon llythyr atoch yn rhoi gwybodaeth am y cynnig grant. Yna byddwch yn gallu prynu'r cerbyd rydych wedi gwneud cais amdano.
Rhaid i chi brynu eich cerbyd newydd gan fasnachwr TAW trwyddedig o fewn 60 diwrnod i'r cynnig grant. Bydd angen i chi hefyd gadw prawf prynu fel y gellir talu'r grant i chi. Byddwch yn cael eich talu pan fydd eich cerbyd newydd wedi'i gofrestru gyda ni a bod eich hen un wedi'i symud.
Rhaid i dystiolaeth o brynu fod yn ddatganiad banc. Ni allwch dalu am eich car newydd gydag arian parod.
Rhaid i'ch cerbyd newydd aros fel tacsi trwyddedig am y 24 mis nesaf. Os caiff eich tacsi ei ddaddrwyddedu yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn gofyn i chi ad-dalu'r swm grant llawn.
Os caiff eich tacsi ei ddinistrio, rhaid i chi brynu cerbyd newydd sydd yr un Dosbarth Ewro. Os na wnewch hynny, gallwn ofyn i chi ad-dalu'r swm grant llawn.
Os ydych yn derbyn y grant hwn ac nad ydych yn gymwys, bydd angen i chi ad-dalu'r swm llawn.
