Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd

Nod Cyngor Caerdydd yw sefydlu Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd annibynnol i gefnogi, cynnal a thyfu ecosystem cerddoriaeth Caerdydd.

Gwnaed cyfres o argymhellion ar gyfer cylch gwaith a chyfansoddiad y Bwrdd o fewn yr Ymchwil ac Adroddiad Strategaeth Caerdydd gan Sound Diplomacy (PDF, 4 MB) , ac mae Cyngor Caerdydd yn cynnig sefydlu'r Bwrdd ar sail yr argymhellion hynny yn ogystal â chylch gorchwyl drafft. Darllenwch y Grynodeb Gweithredol (PDF, 9 MB)

Pwrpas y Bwrdd yw hyrwyddo sin cerddoriaeth Caerdydd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, diogelu a hyrwyddo cerddoriaeth ar lawr gwlad a phob lefel, gan ddarparu llwyfan ar gyfer mwy o gyfathrebu a chydweithio ar draws y sector.

Bydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn galluogi arbenigwyr o wahanol sectorau i weithio gyda'i gilydd tuag at nodau cyffredin er mwyn elwa a datblygu ecoleg a busnes cerddoriaeth yng Nghaerdydd, gan gefnogi'r dyhead bod Caerdydd yn cael ei dathlu fel Dinas Gerdd.

Crynodebau o Gyfarfodydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd

Rhestr o aelodau Bwrdd Cerddoriaeth Cyngor Caerdydd (Excel doc, 38 KB)

 

2024

 

 

2023

 

 

Gweler hefyd