Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Canllawiau cynllunio rhanbarthol

Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i lunio canllawiau cynllunio ar gyfer y rhanbarth.

Grŵp Cynllunio Strategol De-ddwyrain Cymru (SEWSPG)

Cynhyrchodd y grŵp hwn ganllaw cynllunio rhanbarthol ar gyfer De-Ddwyrain Cymru mewn partneriaeth â 10 o awdurdodau cynllunio eraill yn y rhanbarth. Mae'r grŵp yn parhau i gyfarfod i drafod materion rhanbarthol.

Grŵp Gwastraff Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru (SEWRWG)

Cynhyrchodd y grŵp hwn Adolygiad Cyntaf o Gynllun Gwastraff Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru ym mis Gorffennaf 2008 mewn partneriaeth ag 11 o awdurdodau cynllunio lleol eraill yn y rhanbarth. Cysylltwch â ni i ofyn am gopi o'r adroddiad.

Gweithgor Agregau Rhanbarthol De Cymru (SWRAWP)

Cynhyrchodd y grŵp Ddatganiad Technegol Rhanbarthol ym mis Hydref 2008 yn nodi strategaeth ar gyfer cynhyrchu agregau yn Ne Cymru mewn partneriaeth ag 18 o awdurdodau cynllunio lleol eraill. Cysylltwch â ni i ofyn am gopi o'r adroddiad.

Cysylltu â ni