Toggle menu

Uwchraddio'r wefan

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cais am drwydded Deri Inn, Heol y Deri, Rhiwbeina, CF14 6UH

Deddf Trwyddedu 2003 - Hysbysiad Cyhoeddus o Gais 

Cais am Drwydded Safle (dan adran 17)

Mitchells & Butlers Leisure Retail Limited

Enw a chyfeiriad post y safle

Deri Inn
Heol y Deri
Rhiwbeina
CF14 6UH

Yr amrywiad a gynigir:

  • Newid cynllun y lleoliad yn unol â chynlluniau (darlun rhif 2723-10) a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd a diweddaru Amod 8 Atodiad 2 i gyfeirio at gynlluniau cymeradwy, a bydd yr amrywiad hwnnw yn cael effaith ar ôl cwblhau'r gwaith fel yr hysbysir i'r Awdurdod Trwyddedu'n ysgrifenedig. Yr oriau a gweithgareddau trwyddedadwy a ganiateir i aros yr un fath. 
  • Dileu amod dyblyg y Drwydded Safle ynghylch hyrwyddiadau diodydd anghyfrifol. 
  • Diweddaru'r amseroedd ansafonol ar gyfer yr oriau agor fel eu bod yn berthnasol yn benodol i oriau agor i alinio â chaniatâd presennol ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy. 

Mae'r newidiadau yn cynnwys:- 

Llawr Gwaelod

Ad-drefnu seddi sefydlog fel y dangosir ar y cynllun a gyflwynwyd.

Llawr Cyntaf

Dileu rhan o seddi sefydlog yn yr ardal Digwyddiadau/Bar 

Dileu Amod 5 Atodiad 2 gan fod hyn bellach wedi'i gwmpasu gan yr amodau gorfodol, sef: 

"Ni fydd hyrwyddiadau sy'n annog defnydd anghyfreithlon, anghyfrifol neu anghymesur".  

Diweddaru'r amseroedd ansafonol o dan Atodiad 2 y drwydded safle fel eu bod yn berthnasol yn benodol i oriau agor i alinio â chaniatâd presennol ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy trwy ddileu'r ddau gyfeiriad at y geiriad canlynol "(heb gynnwys amser gorffen diod)" a disodli hyn gyda "ac oriau agor". 

Os oes gwrthwynebiadau i ddiwygio'r amseroedd ansafonol o dan bwynt 3, byddai'r Ymgeisydd yn gofyn i'r rhan honno o'r cais gael ei diystyru a bod cymeradwyaeth yn cael ei rhoi ar gyfer gweddill y cais. 

Gellir archwilio'r gofrestr drwyddedu yn Trwyddedu Cyngor Caerdydd, Tŷ Menter, 127 i 129 Stryd Bute, Caerdydd CF10 5LE rhwng 9am a 4pm (o ddydd Llun i ddydd Gwener ac eithrio yn ystod gwyliau cyhoeddus).

Rhaid i unrhyw sylwadau gael eu cyflwyno'n ysgrifenedig i'r cyfeiriad uchod neu mewn e-bost i [email protected] erbyn 6 Gorffennaf 2026.

Mae'n drosedd gwneud datganiad anwir ynglŷn â chais, yn fwriadol neu'n ddi-hid, a gall hyn arwain at gollfarn ddiannod â dirwy heb gyfyngiad.