Mae'r Polisi Caffael Cymdeithasol-gyfrifol (PDF, 1 MB) yn helpu i sicrhau bod y Cyngor yn defnyddio ei wariant blynyddol o £783 miliwn mewn ffordd sy'n dod â'r budd mwyaf i gymunedau lleol:
- yn gymdeithasol,
- yn ddarbodus,
- yn amgylcheddol, ac
- yn ddiwylliannol.
Mae'r polisi hwn yn rhoi dull clir a chyson ar gyfer y ffordd y mae'r Cynghorau Ardal (Caerdydd, Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg) yn gweithio gyda'i gilydd ar brynu sy'n gymdeithasol-gyfrifol. Mae'n dilyn rheolau'r DU a Llywodraeth Cymru ac yn cefnogi nodau holl bartneriaid Ardal.
Mae'r polisi'n amlinellu 8 amcan cymdeithasol-gyfrifol, sy'n cyd-fynd â'r pedwar canlyniad llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Dyma'r amcanion:
- Lleihau Allyriadau Carbon.
- Gwella'r Amgylchedd Naturiol a Bioamrywiaeth.
- Ymgorffori Gwaith Teg a Chyflogaeth Foesegol.
- Creu Cyflogaeth Gynaliadwy a Thwf Sgiliau.
- Gweithio gyda'n Cymunedau.
- Diogelu Lles Pobl Ifanc ac Oedolion sy'n Agored i Niwed.
- Cefnogi ein Heconomi Leol.
- Hyrwyddo Diwylliant Bywiog, Treftadaeth a'r Gymraeg.
