Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cyngor digartrefedd i gyn-filwyr

Os ydych chi'n gadael y lluoedd arfog, neu os ydych chi'n gyn-aelod, efallai y bydd gennych chi hawl i gymorth ychwanegol os byddwch chi'n dod yn ddigartref.

Byddwn yn darparu help os ydych chi'n gyn-aelod o'r lluoedd arfog ac yn ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd.

Os ydych chi'n agored i niwed neu mewn perygl o fod yn ddigartref o ganlyniad i fod yn gyn-aelod o'r lluoedd arfog, cewch eich trin fel rhywun sydd â blaenoriaeth am lety.

Wrth benderfynu hyn, byddwn yn ystyried:

  • Pa mor hir oeddech chi yn y lluoedd a pha rôl oedd gennych chi
  • Os gwnaethoch chi dreulio unrhyw amser mewn ysbyty milwrol
  • Os cawsoch eich rhyddhau o'r gwasanaeth am resymau meddygol (a bod gennych Ffurflen Rhyddhau Hanes Meddygol)
  • Os ydych wedi cael llety ers gadael y gwasanaeth ac os ydych wedi gallu cael neu gynnal llety ers i chi adael
  • Pa mor hir y bu ers i chi adael y gwasanaeth

Er mwyn helpu i gefnogi'ch achos, efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth feddygol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, gan gynnwys Ffurflen Rhyddhau Hanes Meddygol (os cawsoch un).
Cysylltwch â'n Gwasanaeth Opsiynau Tai os ydych chi'n meddwl y byddwch chi'n ddigartref ar ôl cael eich rhyddhau o'r gwasanaethau. 

Rhowch lythyr rhyddhau neu ryw dystiolaeth arall sy'n cadarnhau dyddiad eich rhyddhau o'r lluoedd. Ar y pwynt hwnnw, dylem dderbyn y byddwch yn dod yn ddigartref o'r dyddiad rhyddhau.

Byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i gartref newydd a gwirio eich bod yn gallu fforddio'r rhent cyn i chi lofnodi cytundeb tenantiaeth. 

Byddwn hefyd yn sicrhau bod yr eiddo o safon dderbyniol a'i fod yn addas i chi.

Rydym yn argymell eich bod yn dod i’n gweithdai dod o hyd i gartref yn eich hyb cymunedol lleol.

Bydd eich gweithiwr achos yn eich cynghori am y rhain, neu'n cysylltwch â'ch hyb lleol i gael manylion.
Mae gwasanaethau ychwanegol ar gael trwy'r sefydliadau canlynol:

  • Mae SSAFA yn darparu cyngor tai i bobl sy'n gwasanaethu yn y lluoedd a chyn-bersonél gwasanaethau a'u teuluoedd ar hyn o bryd.
  • Gall Porth Cyn-filwyr gefnogi cyn-aelodau’r lluoedd gyda materion gofal iechyd a thai, a hefyd roi cyngor am gyflogadwyedd, cyllid, perthnasoedd personol a mwy. Hefyd, gallwch ffonio’r Porth Cyn-filwyr 24/7 - 0808 802 1212.

Ymhlith y gwasanaethau a ddarperir mae: 

  • Llety â Chefnogaeth - darparu llety dros dro i gyn-filwyr, gyda chefnogaeth
  • Tai Hirdymor - darparu llety sefydlog i gyn-filwyr, gyda neu heb gefnogaeth.
  • Anghenion Cyffredinol - Tai heb gefnogaeth i aelodau o'r gymuned gyn-Wasanaeth sy'n methu prynu na rhentu ar y farchnad agored. Bydd tenantiaid fel arfer yn hunangynhaliol, ond efallai y bydd angen rhywfaint o Gymorth fel y bo’r angen a restrir.
  • Cymorth fel y bo'r Angen - Gwasanaethau a ddarperir gan weithwyr sy'n ymweld â phobl yn eu cartrefi eu hunain i helpu pobl i gynnal eu llety sefydlog.
    • Gwasanaethau Allgymorth - Yn gweithio gyda phobl sy'n cysgu ar y stryd neu bobl mewn llety dros dro i'w helpu i gael mynediad at lety mwy sefydlog ac unrhyw anghenion cymorth.
    • Canolfannau Dydd - Darparu gweithgareddau a chefnogaeth i bobl ddigartref a phobl sydd mewn llety ond sy’n agored i niwed.(Gelwir y rhain hefyd gan rai darparwyr yn gyfleusterau 'galw heibio').


​​​​​​​ ​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd