Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Llwybr beicio Parc y Rhath Cam 1 - Gwelliannau i Gae Rec y Rhath

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Rydym yn datblygu llwybr beicio newydd o ganol y ddinas i ardal Parc y Rhath. 

Bydd y llwybr yn rhoi buddion allweddol fel: 

  • hyrwyddo teithio llesol a chynaliadwy i’r ysgol, 
  • cyflogaeth, a  
  • chysylltiadau â thrafnidiaeth gyhoeddus. 


Bydd y llwybr yn cysylltu â llwybrau beicio eraill yn y dyfodol.

Bydd Cam 1 yn darparu beicffordd ar wahân newydd a llwybrau troed wedi'u huwchraddio ar Gae Rec y Rhath rhwng cyffordd Wellfield Road ac Alder Road. 

Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys: 

  • Gwelliannau i gyffordd Wellfield Road, Marlborough Road, Penylan Ro​ad, a Ninian Road drwy uwchraddio mannau croesi, croesfan feicio a newidiadau i gyfnodedd signalau traffig. 
  • Disodli'r rhwystrau culhau’r ffordd ar Tŷ Draw Road gyda 4 croesfan i gerddwyr â ramp.
  • Gwelliannau i safleoedd bws a safle bws newydd ar Ninian Road. 
  • Newidiadau i faes parcio Canolfan Gymunedol Penylan i wneud lle ar gyfer y beicffordd. 
  • Gwella'r groesfan sebra ar gyffordd Pen-y-Wain Road a throedffordd a rennir i gerddwyr a beicwyr tuag at Ysgol Gynradd Parc y Rhath. 
  • Uwchraddio'r llwybr troed o amgylch y cae chwarae a'r offer campfa.
  • Newidiadau i'r groesfan sebra ar gyffordd Alder Road ac atal traffig drwodd ar Alder Road. 


Bydd y gwaith yn dechrau ddiwedd Chwefror 2024. 

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y gwaith sy'n cael ei wneud gan y contractwr ar wefan Knights Brown neu drwy e-bostio talktous@knightsbrown.co.uk.

Gwybodaeth ychwanegol 

Dysgwch fwy am y cynllun. 

Gwyddom fod rhai trigolion yn poeni am y newidiadau i symudiadau traffig ar y gyffordd hon.   

Rydym yn gwneud y newidiadau i wella diogelwch i gerddwyr a beicwyr.  Mae hyn yn cynnwys ychwanegu cam golau traffig newydd ar gyfer beicwyr. 

Er mwyn lleihau effaith y cam ychwanegol ar y goleuadau traffig, rydym wedi edrych ar wahanol opsiynau ac wedi penderfynu gwahardd troi i’r dde:

  • o Heol Wellfield ar i Heol Marlborough, ac 
  • o Heol Marlborough i Heol Pen-y-lan. 

Mae hyn yn golygu y gallwn gynnal 4 cam golau traffig ac osgoi ciwiau hirach ac oedi wrth y gyffordd. 

Pe bai'r symudiadau presennol yn cael eu cadw ynghyd ag ychwanegu’r camau goleuadau a gwelliannau ar y droedffordd i gerddwyr, byddai'n cael effaith negyddol ar draffig ac ar gerddwyr wrth y gyffordd ac o amgylch yr ardal.

Cynhaliwyd arolygon traffig gennym ym mis Chwefror 2024 ac maent yn debyg i arolygon blaenorol a gynhaliwyd. Rydym yn credu y bydd yr effaith yn fach iawn.  Fodd bynnag, byddwn yn monitro’r sefyllfa. 

Rydym hefyd yn edrych ar ffyrdd o wella teithio llesol o amgylch Ysgol Gynradd Marlborough.
  

Bydd giât y fynedfa bresennol yn cael ei lledu i wella mynediad ar gyfer ein cerbydau cynnal a chadw parciau. 

Er nad yw'r gatiau a'r rheiliau yn strwythurau rhestredig, mae iddynt werth o ran treftadaeth. Byddwn yn sicrhau: 
 
  • y gwneir y newidiadau mor ofalus a chydymdeimladol â phosibl, ac
  • y defnyddir cymaint o'r defnyddiau gwreiddiol ag y bo modd. 


Bydd y gwaith yn cryfhau'r rheiliau yn y lleoliad hwn a bydd y plât enw hanesyddol yn cael ei symud ychydig.  

Yn ystod y cyfnod adeiladu, bydd nifer y caeau chwaraeon yn lleihau o 4 i 3.  Unwaith y bydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau, byddant yn mynd yn ôl i 4 cae. Fodd bynnag, byddant mewn trefniant gwahanol i'r cynllun presennol a’r un dros dro. 

Mae'n rhaid i ni leihau nifer y caeau er mwyn sicrhau: 

  • bod digon o le ar gyfer adeiladu a defnydd y cyhoedd, ac
  • y gellir cwblhau'r gwaith adeiladu yn ddiogel. 


Byddwn yn troi'r caeau, fel yr ochrau yn eich hwynebu. Dim ond digon o le i 3 chae sydd yn y cynllun hwn yn ystod y gwaith adeiladu. 

Rydym wedi ymgynghori â'r Adran Parciau, ac rydym yn hyderus y bydd digon o le i ateb y galw.  

Byddwn yn dod â'r pedwerydd cae yn ei ôl cyn gynted â phosibl.​


Nid ydym yn torri unrhyw goed o ganlyniad i'r cynllun hwn. 

Ar ôl asesiad annibynnol, byddwn yn gwneud gwaith tocio ar rai coed yn y parc, gan gynnwys Ffordd Ninian. Mae hyn yn gyfuniad o:

  • gael gwared ar ganghennau marw sydd mewn perygl o gwympo, a
  • thorri canghennau isaf coed, sy'n cadw gwaelod canopi'r goeden yn glir o lwybrau troed.



Mae'r rhesymau dros docio yn ymwneud ag:

  • iechyd coed, ac
  • iechyd a diogelwch y cyhoedd.​




Mae angen i ni hefyd dynnu 3 coeden. Mae gan y coed hyn ddiffygion a allai beri risg i ddiogelwch y cyhoedd os cânt eu gadael yn eu lle. Mae'r map diweddariadau coed yn dangos lleoliadau'r coed hyn ac yn disgrifio eu problemau mewn mwy o fanylder unigol.

Sylwch nad yw ein gwaith cynnal a chadw sy'n ymwneud â thynnu’r coed hyn o ganlyniad i'r beicffordd newydd.

​​
Fe wnaethom ddechrau’r gwaith hwn ar 15 Ebrill 2024.

Rydym nawr yn bwriadu plannu 3 coeden newydd yn ystod y tymor plannu.

Y 3 coeden arfaethedig yw Alnus Glutinosa sy'n ffynnu mewn amodau gwlyb. Dewiswyd y rhain fel rhan o waith plannu SDCau. Byddwn yn plannu 2 ohonynt mewn pant arfaethedig ynghyd â phlannu SDCau arall.​



Aseswyd nifer fach o lasbrennau yng ngogledd-orllewin y parc hefyd, oedd i gael eu hadleoli. Cadarnhaodd hyn nad oedd y glasbrennau yn fyw mwyach. Rydym wedi tynnu’r rhain ac yn bwriadu darparu glasbrennau newydd yn y dyfodol pan fydd amodau'n caniatáu.​


Gallwch weld y diweddariadau coed (274kb PDF).​

 
Gallwch weld y lluniau manwl o’r cynllun (7mb PDF). Gall y lluniadau newid oherwydd newidiadau i’r dyluniad ac amodau'r safle.​

Cysylltu â ni​


Gallwch gysylltu â ni ar e-bost neu drwy’r post. 


Tîm Rhaglen Drafnidiaeth
Ystafell 301, Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW​

​​​​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd