Mae'r Cyngor yn hysbysu preswylwyr ynghylch cynlluniau i wneud newidiadau i'r briffordd ar Heol Isaf, Radur (226kb PDF).
Cynigir uwchraddio croesfan sebra bresennol ar Heol Isaf ger Ysgol Gyfun Radur, i groesfan sebra ddyrchafedig. Bydd y droedffordd bresennol ar ochr ddwyreiniol y ffordd hefyd yn cael ei lledu a'i hailwynebu.
Fel rhan o'r cynnig hwn, bydd y ddau bwynt mynediad i gerbydau i Ysgol Gyfun Radur yn cael eu culhau a fydd yn annog cerbydau i leihau eu cyflymder wrth symud o amgylch y cyffyrdd hyn. Bydd hynny felly yn gwella diogelwch i yrwyr a cherddwyr yn y cyffyrdd hyn.
Bydd y cyfleuster newydd hwn yn gwella cyfleusterau croesfannau i gerddwyr yn yr ardal i gerddwyr, a bydd hefyd yn helpu i leihau cyflymder cerbydau ar hyd Heol Isaf.
Bydd y cynllun yn helpu i greu amgylchedd priffyrdd diogelach i bob defnyddiwr ar hyd y llwybr hwn, ond yn enwedig y myfyrwyr sy'n mynychu Ysgol Gyfun Radur.
Mae'r cynllun yn cael ei ariannu o gyllid Adran 106 a hefyd Llywodraeth Cymru - cyllid Teithio Llesol.
Byddem yn gwerthfawrogi unrhyw sylwadau sydd gennych ynghylch y cynigion.
Rydym yn deall y gallai fod gennych awgrymiadau eraill i wella diogelwch yn yr ardal hon. O ganlyniad i gyfyngiadau ariannol efallai na fydd modd i ni newid y cynlluniau hyn yn sylweddol ar hyn o bryd, ond byddwn yn cadw cofnod o unrhyw awgrymiadau a ddaw i law er mwyn eu cynnwys mewn cynlluniau yn y dyfodol.
Gwybodaeth ychwnaegol ynghylch mesurau rheoli traffig
Canfyddwch beth mae pob term yn ei olygu:
Nodweddion Arafu Traffig
Mae'r term hwn yn cyfeirio at fesurau rheoli traffig ffisegol penodol sy'n gorfodi gyrrwyr i leihau cyflymder cerbydau. Mae'r rhain yn cynnwys twmpathau ffordd, clustogau arafu, byrddau arafu, rhwystrau culhau'r ffordd, rhwystrau igam-ogamu, pyrth arafu, cylchfannau a nodweddion tebyg eraill.
Croesfan Sebra
Mae'r math hon o groesfan yn addas ar gyfer safleoedd sydd â lefelau canolig o alw gan gerddwyr a llif traffig lle nad oes cyfiawnhad dros groesfan pâl. Gall wasanaethu cerddwyr yn well, gan nad oes amser aros penodedig cyn cael yr hawl i groesi. Gellir eu cyfuno'n hawdd â rhwystrau ymwthiol sy'n gwella gwelededd i gerbydau, yn lleihau'r pellteroedd croesi ac yn egluro bod cerddwyr yn bwriadu croesi'r ffordd.
Croesfan Sebra â Bwrdd
Croesfan sebra sy'n cynnwys bwrdd arafu, neu sydd ar gyffordd fwrdd, yn rhan o fesurau ehangach i arafu traffig neu ar ei ben ei hun.
Cyllid Adran 106
Mae Adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn caniatáu i awdurdod cynllunio lleol wneud cytundeb neu rwymedigaeth cynllunio cyfreithiol-rwymol gyda pherchennog tir mewn cysylltiad â rhoi caniatâd cynllunio. Gelwir y rhwymedigaeth yn Gytundeb Adran 106.
Mae'r cytundebau hyn yn ffordd o gyflawni neu fynd i'r afael â materion sydd eu hangen i sicrhau bod datblygiad yn dderbyniol o ran telerau cynllunio. Fe'u defnyddir fwyfwy i gynorthwyo'r ddarpariaeth o wasanaethau a seilwaith, megis priffyrdd, cyfleusterau hamdden, addysg, iechyd a thai fforddiadwy.
Dweud eich dweud
Os hoffech roi unrhyw sylwadau am y cynnig hwn, rhowch wybod i ni erbyn 22 Medi 2023.
Prosiectau Trafnidiaeth
Ystafell 301
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW
E-bost: ProjectauTrafnidiaeth@caerdydd.gov.uk