Hoffem glywed eich barn am ein cynigion parcio ar gyfer Aldsworth Road, Treganna.
Yn dilyn cwynion gan drigolion am barcio anystyriol ar y ffordd, rydym yn cynnig cyflwyno cynllun parcio â thrwydded.
Mae hyn yn golygu y byddai angen i yrwyr sy'n parcio ar Aldsworth Road gael trwydded ddilys.
Bydd hyn yn helpu gyda'r canlynol:
- diogelu lle i drigolion a'u hymwelwyr,
- atal parcio anystyriol, ac
- annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, beicio a cherdded.
Bydd trigolion Heol Aldsworth a 560 i 570 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen yn gallu gwneud cais am:
- hyd at 2 drwydded ar gyfer eu cerbydau, a
- lwfans trwydded ymwelwyr.
Ni fydd angen trwyddedau ar drigolion i barcio ar dramwyfeydd preifat.
Efallai y byddwn hefyd yn cyflwyno rhai llinellau melyn newydd i atal parcio sy'n rhwystr neu'n beryglus, ger cyffyrdd er enghraifft neu ar gorneli.
Dweud eich dweud
Bydd angen tua 5 munud i gwblhau'r arolwg hwn.
Mae'r broses ymgynghori yn cau ddydd Gwener 19 Ebrill 2024.
Yn anffodus, ni allwn ymateb i unrhyw un yn unigol, ond byddwn yn ystyried pob adborth.
Cwblhewch yr arolwg.