Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ysgol Gynradd Adamsdown

​Mae’r Cyngor yn rhoi gwybod i breswylwyr am ei gynlluniau i wneud newidiadau i’r briffordd ar Constellation Street. 

Mae rhwystrau culhau'r ffordd bresennol ar Constellation Street y tu allan i Ysgol Gynradd Adamsdown ger Caeau Anderson; mae’r rhain yn lleihau llif y traffig i un lôn. Cynigir tynnu’r rhwystrau a’u disodli â chroesfan sebra ddyrchafedig sy’n ymwthio i’r ffordd. Gall rhwystrau culhau'r ffordd amharu ar lif traffig, cythruddo gyrwyr, ac achosi oedi i deithiau bws. Bydd tynnu’r rhwytrau culhau â blaenoriaeth yn gwella dibynadwyedd amseroedd bysus drwy eu helpu i symud.
 
  • Arafu cerbydau 
  • Gosod croesfan ddyrchafedig lawn a thynnu’r rhwystrau culhau’r ffordd. 
  • Ehangu'r droedffordd bresennol y tu allan i Ysgol Gynradd Adamsdown ar ochr ogleddol Constellation Street.
  • Rhoi Gorchymyn Rheoli Traffig newydd ar waith ar Constellation Street. 


Bydd y mesurau arafu traffig yma yn gwella cyfleusterau croesi i gerddwyr yn yr ardal a hefyd yn helpu i leihau cyflymder cerbydau ar hyd Constellation Street gan wneud y briffordd yn fwy diogel i bawb sy’n ei defnyddio. 

Mae'r cynllun yn cael ei ariannu drwy Gronfa Teithio Llesol Lywodraeth Cymru. 


Byddem yn gwerthfawrogi unrhyw sylwadau a allai fod gennych ynglŷn â'r cynigion. 

Rydym yn deall y gallai fod awgrymiadau eraill gennych i wella diogelwch ar Constellation Street. O ganlyniad i gyfyngiadau ariannol efallai na fydd modd i ni newid y cynlluniau hyn yn sylweddol ar hyn o bryd, ond byddwn yn cadw cofnod o unrhyw awgrymiadau a ddaw i law er mwyn eu cynnwys mewn cynlluniau yn y dyfodol. 

Os hoffech wneud unrhyw sylwadau ynghylch y cynnig hwn, rhowch wybod i ni ​​erbyn 27 Gorffennaf 2023.

Ebost: ProjectauTrafnidiaeth@caerdydd.gov.uk.

​​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd