Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwelliannau i Daith Taf - Parc Hailey

Mae Cyngor Caerdydd wedi datblygu cynigion i wella'r rhan hir sefydledig o Daith Taf sy'n mynd drwy Barc Hailey rhwng Heol y Bont a Heol Tŷ Mawr.

Mae’r Daith Taf yn rhan o rwydwaith o lwybrau y mae’r Cyngor am eu datblygu a/neu eu gwella er mwyn annog mwy o deithio llesol a chyflawni ei ddyletswyddau statudol y gosodwyd arno gan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru).  

Mae'r llwybr presennol drwy Barc Hailey yn cael ei rannu'n swyddogol gan gerddwyr a beicwyr fel y bu ers blynyddoedd lawer. Mae'r cynllun arfaethedig yn cynnwys ehangu'r llwybr presennol ac ailalinio rhan ohono. Bydd y cynllun yn creu cyfleuster llwybr cyd-ddefnyddio gwell ac ehangach i alluogi holl ddefnyddwyr y parc i symud yn ddiogel o fewn neu drwy'r parc.

Cynhwysir rhannau dyrchafedig gan gynnwys ger yr ardal chwarae ym mhen deheuol y parc i helpu i arafu beiciau.

Am beth o'i hyd bydd y llwybr gwell yn dilyn aliniad y llwybr presennol.  Fodd bynnag, mae rhannau o'r cynllun arfaethedig yn dilyn aliniad amgen.  Ar ben gogleddol y llwybr, mae'r aliniad amgen yn mynd ar hyd ymyl ddwyreiniol ardal y ddôl.

Yn y pen deheuol, mae’r aliniad amgen arfaethedig wedi ei seilio ar nifer o gyfyngiadau - agosrwydd coed, seilwaith presennol a nodweddion ecolegol - sydd wedi golygu nad yw'n bosibl ehangu'r llwybr presennol lle mae'n mynd rhwng y cyrtiau tennis ac afon Taf.

Bydd arwyddion priodol yn cael eu cynnwys yn y cynllun i gynghori defnyddwyr llwybrau sut i ddefnyddio'r llwybr yn ddiogel ac i annog ymddygiad ystyriol. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan ymgyrch hyrwyddo i atgyfnerthu negeseuon allweddol i wahanol grwpiau defnyddwyr.


Ymgynghorwyd ar y cynigion yn ffurfiol am y tro cyntaf cyn pandemig Covid19 ym mis Mawrth 2020.

Gweithgareddau ymgynghori


Cynhaliwyd digwyddiad ymgynghori yn 2il Grŵp Sgowtiaid Llandaf, Belle Vue Crescent ar 14 Mawrth 2020 rhwng 10am a 2pm i edrych ar gynllun Parc Hailey, a’i drafod. Daeth llawer o bobl i’r digwyddiad. Hyrwyddwyd yr ymgynghoriad drwy'r gweithgareddau canlynol:


  • Arolwg byr gyda’r dogfennau ymgynghori ar wefan Cyngor Caerdydd
  • Dosbarthu llythyrau i eiddo yng nghyffiniau'r cynllun
  • Hysbysiadau safle yng nghyffiniau'r cynllun
  • E-bost at randdeiliaid ac ymgyngoreion statudol
  • Datganiad i’r wasg
  • Gwybodaeth ar dudalen flaen gwefan y Cyngor
  • Cyfryngau cymdeithasol  

Oherwydd cyfyngiadau cyfnod clo Covid19 a ddaeth i rym ddiwedd mis Mawrth 2020, nid oedd yn bosibl cynnal unrhyw ddigwyddiadau ymgynghori pellach, fodd bynnag, ymestynnwyd y cyfnod ymgynghori am bythefnos arall.
O ystyried yr adborth a gafwyd o'r ymgynghoriad ffurfiol cychwynnol, gwnaed nifer o newidiadau i'r cynllun arfaethedig.

Mae'r Cyngor bellach yn cynnal mwy o ymgysylltu â'r cyhoedd a rhanddeiliaid ar y newidiadau hyn.

Cynhaliwyd digwyddiad galw heibio ymgysylltu yn Neuadd Sgowtiaid Ystum Taf ddydd Mercher 19 Ebrill rhwng 5pm ac 8pm.

Cyn y digwyddiad, postiwyd llythyrau gwahoddiad i dros 570 o eiddo preswyl ar strydoedd i'r gorllewin o Heol yr Orsaf ac i'r de (a gan gynnwys) y rhan o Heol Tŷ Mawr yn Ward Ystum Taf. Rhoddwyd cyhoeddusrwydd i'r digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd.

Roedd copïau papur o'r cynlluniau trefniant cyffredinol a darnau o ddelweddau 3D y cynllun yn cael eu harddangos ar waliau a byrddau. Dangosodd swyddogion fideo o'r delweddau 3D ar gyfrifiadur personol a monitor yn y digwyddiad.
Yn dilyn cam cyntaf yr ymgynghoriad, gwnaed y newidiadau canlynol i ddyluniad y cynllun a gyflwynwyd yn y digwyddiad ymgynghori ym mis Ebrill 2023:

  • Mae'r llwybr wedi'i adlinio wrth ymyl Mary Street i gynnal parcio preswyl a pharcio i ymwelwyr ar ochr ddeheuol Mary Street.  Bydd cysylltiad ychwanegol i gerddwyr â'r llwybr troed ar Mary Street yn rhoi gwell cysylltedd i gerddwyr sy'n defnyddio'r parc o Mary Street.
  • Defnyddir marciau llawr 'Pwyll Pia Hi' drwy gydol y cynllun i hysbysu'r holl ddefnyddwyr eu bod yn defnyddio man a rennir o fewn amgylchedd parciau.  
  • Mae lled y llwybr wedi'i leihau o 5m i 4m a fydd yn lleihau faint o le sydd ei angen i hwyluso'r rhannau newydd o'r llwybr troed a'r ardal o arwyneb caled newydd yn y parc.
 
 






Gofynnir i unrhyw un sy'n dymuno rhoi adborth ar y cynigion anfon hwn trwy'r e-bost canlynol: Ebost Polisi Trafnidiaeth erbyn 11 Awst 2023.

Bydd y Cyngor yn ystyried yn llawn yr holl adborth a geir cyn penderfynu a yw'n dymuno bwrw ymlaen â'r prosiect.

Bydd adroddiad llawn yn cofnodi'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol cychwynnol a'r broses ymgysylltu gyfredol yn cael ei gyhoeddi maes o law.

© 2022 Cyngor Caerdydd