Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cynllun Grant Bysus Trydan

​​​​​​Mae Cyngor Caerdydd wedi sicrhau grant gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynyddu'r defnydd o fysus trydan yn y ddinas. Bydd hyn yn helpu'r llywodraeth i gyrraedd ei tharged o fflyd bysus heb allyriadau ledled Cymru erbyn 2035.

Gall gweithredwyr bysiau wneud cais am arian grant i brynu bysus trydan. Bydd hyn yn cynyddu'r defnydd o fysus trydan sy'n gweithredu yng Nghaerdydd yn bennaf.  

Darllenwch drwy'r holl ddogfennau cyn cwblhau cais. 

Mae’r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi’u dylunio i’w hargraffu. Mae’n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.
​​




Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y dogfennau, anfonwch nhw i CeisiadauGrantBwsTrydanol@caerdydd.gov.uk. Bydd unrhyw eglurhad a roddir yn cael ei rannu gyda phob ymgeisydd. 

Sut i wneud cais


 
Rhaid anfon ceisiadau i CeisiadauGrantBwsTrydanol@caerdydd.gov.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd ddydd Gwener 17 Chwefror 2023. 

Bydd eich cais yn annilys os na fyddwch yn cwblhau'r meini prawf cymhwyso. Ystyriwch hefyd y nodiadau a ddarperir ar y ffurflen gais.

​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd