Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cais am orchymyn rheoli traffig (GRhT)

​​​​​Rydym yn derbyn nifer uchel o geisiadau am GRhT, fel llinellau melyn a pharcio i breswylwyr.

Rhaid i'ch cais roi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom. Os yw'n anghyflawn neu'n anghywir, efallai na fyddwn yn gallu ei ystyried.

Mae creu GRhT yn broses gyfreithiol hir a chostus, sy'n golygu y gall yn aml gymryd rhwng 12 a 18 mis i'w gyflawni. Gall GRhT cymhleth gymryd mwy o amser.

Yr hyn y gallwch chi wneud cais amdano 

Darganfyddwch am y GRhT y gallwch chi wneud cais amdanynt.​

 

Mae cynlluniau trwyddedau i breswylwyr yn cael eu sefydlu i flaenoriaethu'r lle parcio sydd ar gael i breswylwyr.

Fel arfer, cânt eu sefydlu lle mae preswylwyr yn ei chael hi'n anodd parcio ger eu cartrefi, oherwydd nifer y rhai nad ydynt yn breswylwyr sy'n parcio yno.

Mae cynlluniau parcio i breswylwyr yn helpu i reoli lleoedd parcio cyfyngedig. Nid ydynt yn creu lle ychwanegol nac yn gwarantu lle parcio. 

Meini prawf gwneud cais 

Byddwn ond yn ystyried cais os:

  • Mae angen i breswylwyr barcio ar y stryd.
  • Mae llawer iawn o barcio nad yw'n barcio preswyl.
  • Mae'r rhan fwyaf o'r preswylwyr o blaid cynllun trwyddedau.

Bydd angen prawf arnom bod o leiaf 50% o'r preswylwyr yn cefnogi cyflwyno trwyddedau parcio.

Os oes gennych dystiolaeth o gefnogaeth eich cynghorwyr ward, bydd hyn yn gostwng i 25%.

Ar ôl i ni dderbyn cais sy'n bodloni'r holl feini prawf, byddwn yn cynnal arolygon galw am leoedd parcio ac yn ysgrifennu at yr holl breswylwyr i gael adborth ar ein cynigion.

Os bydd y rhan fwyaf o breswylwyr yn cefnogi ein cynigion, byddwn yn dechrau'r broses GRhT.​



Defnyddir llinellau melyn i atal parcio rhwystrol neu beryglus, yn enwedig ar gyffyrdd neu ffyrdd cul.

Meini prawf gwneud cais

Byddwn ond yn ystyried cais os:

  • Mae yna faterion diogelwch, llif traffig neu fynediad.
  • Mae cerbydau'n parcio'n rheolaidd yn y lleoliad, ac am gyfnodau hir.
  • Nid yw'r llinellau melyn ar gyfer diogelu mynediad preswyl preifat yn unig. ​


Mae mannau llwytho yn cael eu gosod i sicrhau y gall busnesau dderbyn danfoniadau.

Meini prawf gwneud cais

Byddwn ond yn ystyried cais os:

  • Byddai man llwytho yn golygu y gellid llwytho yn ddiogel ar unrhyw adeg yn ystod diwrnod gwaith.
  • Byddai man llwytho o fudd i fusnesau lleol.
  • Byddai'r man llwytho ar gyfer mwy nag un busnes.

Fel arfer, mae mannau llwytho wedi'u cyfyngu i gerbydau nwyddau yn unig.

Ar ôl i ni dderbyn cais sy'n bodloni'r holl feini prawf, byddwn yn sicrhau na fyddai man llwytho yn effeithio ar lif traffig nac yn achosi pryderon diogelwch. ​



Mae cynlluniau trwyddedau meddygon yn blaenoriaethu lle parcio i feddygon a allai fod angen parcio'n agos at eu meddygfa.​

Meini prawf gwneud cais

Byddwn ond yn ystyried cais os:

  • Mae'n debygol y bydd y meddyg yn cael ei alw i argyfyngau i ffwrdd o'r feddygfa.
  • Nid oes mannau parcio addas oddi ar y stryd ar gael.
  • Nid oes dewis arall i barcio ar y stryd o fewn pellter rhesymol i'r feddygfa.

Costau

Bydd angen i chi dalu £250 i wneud cais. Ni ellir ad-dalu hwn, hyd yn oed os ydym yn gwrthod eich cais. ​​​


​​Mae cyfyngiadau terfyn pwysau yn cael eu cyflwyno os yw ffyrdd anaddas yn cael eu defnyddio gan gerbydau nwyddau trwm (HGV).

Meini prawf gwneud cais

Byddwn ond yn ystyried cais os:

  • Mae'r ffordd yn anaddas ar gyfer cerbydau HGV. Er enghraifft, mae'r ffordd yn rhy gul neu mae pryderon diogelwch.
  • Mae cerbydau HGV yn defnyddio'r ffordd yn rheolaidd.

Mae cyfyngiadau pwysau fel arfer yn cynnwys eithriad ar gyfer mynediad cyfreithlon, llwytho neu ddeiliaid trwyddedau.

Ar ôl i ni dderbyn cais sy'n bodloni'r holl feini prawf, byddwn yn gwirio a oes llwybrau eraill, mwy priodol i gerbydau HGV eu cymryd. ​

Yr hyn na allwch wneud cais amdano

Nid ydym yn derbyn ceisiadau ar gyfer:

  • cyfyngiadau traffig “mynediad yn unig",
  • parcio ar gyfer deiliaid trwyddedau busnes yn unig,
  • llinellau melyn i ddiogelu mynediad preswyl preifat,
  • cynlluniau trwyddedau ar gyfer eiddo unigol,
  • mathau newydd o drwyddedau, neu
  • gynlluniau ar ffyrdd preifat.

Sut i wneud cais

Mae angen tystiolaeth ar rai ceisiadau cyn i ni eu hystyried, megis ceisiadau parcio i breswylwyr. Fodd bynnag, gydag unrhyw gais, mae bob amser yn ddefnyddiol darparu tystiolaeth i'n helpu i ddeall unrhyw faterion. Er enghraifft, tystiolaeth ffotograffig o broblemau parcio.​​

Gwneud cais am orchymyn rheoli traffig (GRhT)​

Beth sy'n digwydd nesaf 

Pan fyddwn yn derbyn cais, byddwn yn ystyried:

  • A yw meini prawf y cais (gan gynnwys unrhyw dystiolaeth angenrheidiol) wedi'u bodloni.
  • A fyddai'r cynigion yn effeithio ar lif traffig, diogelwch neu lefelau llygredd aer.
  • A oes arian ar gael ar gyfer y cynllun.
  • Safonau dylunio.

Rydym yn ystyried ceisiadau bob 3 mis i benderfynu pa gynlluniau fydd yn cael eu datblygu.

Byddwn bob amser yn blaenoriaethu cynlluniau diogelwch a chynlluniau ar gyfer pobl anabl.​











© 2022 Cyngor Caerdydd