Rydym am glywed eich sylwadau i'n helpu i benderfynu sut y caiff perygl llifogydd ei reoli dros y 6 mlynedd nesaf.
Rhaid i ni adolygu a diwygio'r strategaeth perygl llifogydd bresennol dan Adran 10 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae hyn yn sicrhau bod ein gwaith yn cyd-fynd â'r strategaeth genedlaethol.
Fel yr Awdurdod Llifogydd Arweiniol Lleol, rhaid i ni ddatblygu, cynnal, gweithredu a monitro strategaeth leol ar gyfer rheoli perygl llifogydd. Rhaid i'r strategaeth ddangos sut y byddwn yn rheoli perygl llifogydd o ystod o ffynonellau fel cyrsiau dŵr arferol, dŵr wyneb ffo, a dŵr daear.
Dweud eich dweud
Mae'r ymgynghoriad hwn bellach ar gau.