Mae Cyngor Caerdydd wedi lansio cynllun cam wrth gam i ailagor Caerdydd yn raddol fel un o ddinasoedd diogelaf y DU.
Beicffyrdd Dros Dro
Mae Caerdydd - a bleidleisiwyd fel y ddinas orau yn y DU i feicio ynddi yn ddiweddar - yn gosod beicffyrdd dros dro.
Bwriedir gosod y beicffyrdd erbyn yr hydref i gynnig llwybrau diogelach, wedi eu gwahanu rhan fwyaf, i alluogi pobl i deithio ar feic ar rai o ffydd prysuraf Caerdydd.
Strategaeth adfer Caerdydd
Rydym wedi cynhyrchu nifer o Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb (AEG) i’n helpu i gynllunio ein strategaeth adfer ac i roi cynlluniau ar waith i’ch helpu i ymweld â chanol y ddinas yn ddiogel ac er mwyn i fusnesau adfer ar ôl effeithiau COVID-19.