Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Polisi Preifatrwydd Diogelwch Cymunedol

​Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae'r Tîm Diogelwch Cymunedol yn defnyddio'r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn cymryd rhan ym Mhartneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerdydd.

Mae'r Gwasanaeth i Mewn i Waith yn rhan o Gyngor Caerdydd, sef y Rheolydd Data at ddibenion y data a gesglir.  Prosesir yr holl ddata personol yn unol â GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018. 

Pynciau:

  • Pa ddata rydym yn ei gasglu a pham?
  • Sut rydym yn casglu eich data?
  • Sut y byddwn yn defnyddio eich data?
  • Sut rydym yn  storio eich data?
  • Beth yw eich hawliau diogelu data?
  • Beth yw cwcis?
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis?
  • Pa fathau o gwcisrydym yn eu defnyddio?
  • Sut i reoli eich cwcis
  • Polisïau preifatrwydd gwefannau eraill
  • Newidiadau i'n polisi preifatrwydd
  • Sut i gysylltu â ni
  • Sut i gysylltu â'r awdurdodau priodol

 

Pa ddata rydym yn ei gasglu?

Nod y Tîm Diogelwch Cymunedol yw casglu'r data canlynol:

  • Data troseddau.
  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Data sy'n gysylltiedig ag ymosodiadau.
  • Data rhoi ar dân.
  • Data digartrefedd, cysgu ar y stryd a byw â chymorth.
  • Defnyddio cyffuriau a data sbwriel cyffuriau.
  • Sbwriel a graffiti anghyfreithlon eraill.
  • Data arolygon.
  • Data darpariaeth ac asedau.
  • Data addysg - gwaharddiadau, triwantiaeth, digwyddiadau

 

Caiff hyn ei gasglu at ddiben cefnogi Partneriaid Diogelwch Cymunedol i leihau effeithiau Drais, Trosedd ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol i wella canfyddiadau diogelwch yn ardal Caerdydd a'r cyffiniau.

 

Sut rydym yn casglu eich data?

Rydych chi'n darparu'r rhan fwyaf o'r data rydyn ni'n ei gasglu yn uniongyrchol i'r Tîm Diogelwch Cymunedol. Rydym yn casglu data ac yn prosesu data pan fyddwch yn:

  • Defnyddio ein gwefan neu edrych arni trwy gwcis eich porwr.
  • Adroddiadau awtomatig (trwy fynediad a rennir i ddangosfyrddau, pyrth, cronfeydd data, ac ati)
  • Adrodd cyfnodol (trwy allforio data a rennir, diweddariadau ysgrifenedig, ac ati) 

Gall y Tîm Diogelwch Cymunedol hefyd gael eich data yn anuniongyrchol o'r ffynonellau canlynol:

  • Adrannau mewnol eraill (megis ymgysylltu â'r gymuned, Canolfan Ymchwil Caerdydd, ac ati) 

Sut byddwn yn defnyddio eich data?

Mae'r Tîm Diogelwch Cymunedol yn casglu eich data er mwyn:

seilio ein gweithgareddau ar fframwaith cyfreithiol cadarn. Yn benodol, y sail gyfreithlon ar gyfer cyfranogiad partneriaid sector cyhoeddus yw'r egwyddor 'tasg gyhoeddus' fel y'i diffinnir yn Erthygl 6(1)(e).

At hynny, mae Adran 115 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 yn awdurdodi partneriaid i gyfnewid gwybodaeth sy'n hanfodol ar gyfer atal trosedd ac anhrefn. Yn ategu hyn, mae Atodlen 9(5) i Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder yn cadarnhau ymhellach ein mandad trwy osod dyletswydd newydd ar yr asiantaethau perthnasol i gydweithio yn yr ymdrechion hyn.

Wrth brosesu eich data, rydym yn cadw at safonau diogelu data fel sy'n ofynnol dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data'r DU 2018. Yn benodol, rydym yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio ag Erthygl 9 y GDPR. 

Cyfeiriwch at Atodiad B i Brotocol Rhannu Gwybodaeth Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerdydd i weld sut y gellid rhannu data o'ch sefydliad.

Sut rydym yn storio eich data?

Mae'r Tîm Diogelwch Cymunedol yn cadw'ch data yn ddiogel ar weinyddion y Cyngor, ac yn defnyddio polisïau lleihau a chadw data yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 y DU a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Caiff data sensitif ei adolygu'n rheolaidd i sicrhau ei fod yn dal yn angenrheidiol at y diben a nodwyd, mae gennym bolisïau cadw data clir sy'n unol â gofynion cyfreithiol ac arferion gorau, caiff y data ei ddileu neu eu dienwi'n ddiogel unwaith nad oes ei angen mwyach. Felly, bydd yr amser y bydd eich data yn cael ei storio gan y Tîm Diogelwch Cymunedol yn amrywio yn ôl ei sensitifrwydd a'i berthnasedd.

Beth yw eich hawliau diogelu data?

Hoffai'r Tîm Diogelwch Cymunedol wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i'r canlynol:

  • Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i ofyn am gopïau o unrhyw ran o'ch data personol gan y Tîm Diogelwch Cymunedol. 
  • Yr hawl i gywiro – mae gennych chi hawl i ofyn i'r Tîm Diogelwch Cymunedol gywiro unrhyw wybodaeth sy'n anghywir yn eich barn chi.  Mae gennych hawl hefyd i ofyn i'n Cwmni gwblhau'r wybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.
  • Yr hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i'r Tîm Diogelwch Cymunedol ddileu eich data personol, dan rai amodau.
  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu – Mae gennych hawl i ofyn i'r Tîm Diogelwch Cymunedol roi cyfyngiadau ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.
  • Yr hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych hawl i wrthwynebu i'r Tîm Diogelwch Cymunedol brosesu eich data personol, dan rai amodau.
  • Yr hawl i gludo data – Mae gennych hawl i ofyn i'r Tîm Diogelwch Cymunedol drosglwyddo'r data yr ydym wedi'i gasglu i sefydliad arall, neu'n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.

Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi.  Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â ni ar ein cyfeiriad e-bost: ​

PDCCaerdydd@caerdydd.gov.uk​

Cwcis

Mae cwcis yn ffeiliau testun a roddir ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a gwybodaeth am ymddygiad defnyddwyr. Pan fyddwch yn defnyddio ein gwefannau, mae'n bosibl y byddwn yn casglu data gennych yn awtomatig trwy gwcis neu dechnoleg debyg

I gael mwy o wybodaeth, ewch i allaboutcookies.org​.

Sut rydym yn defnyddio cwcis?

Mae Ein Cwmni yn defnyddio cwcis mewn amrywiaeth o ffyrdd i wella'ch profiad ar ein gwefan, gan gynnwys:

  • Eich cadw wedi'ch mewngofnodi
  • Deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan

 

Pa fathau o gwcis rydym yn eu defnyddio?

Mae nifer o wahanol fathau o gwcis, fodd bynnag, mae ein gwefan yn defnyddio:

  • Ymarferoldeb – Mae Ein Cwmni yn defnyddio'r cwcis hyn fel ein bod yn eich adnabod ar ein gwefan ac yn cofio'r hyn a ddewiswyd gennych yn flaenorol. Gallai hyn gynnwys eich dewis iaith a'ch lleoliad. Defnyddir cymysgedd o gwcis parti cyntaf a thrydydd parti.
  • Hysbysebu – Mae Ein Cwmni yn defnyddio'r cwcis hyn i gasglu gwybodaeth am eich defnydd o'n gwefan, y cynnwys yr edrychoch arno, y dolenni a ddilynwyd gennych a gwybodaeth am eich porwr, eich dyfais, a'ch cyfeiriad IP. Mae Ein Cwmni weithiau'n rhannu rhai agweddau cyfyngedig ar y data hwn â thrydydd partïon at ddibenion hysbysebu. Efallai y byddwn hefyd yn rhannu data ar-lein a gesglir drwy gwcis gyda'n partneriaid hysbysebu. Mae hyn yn golygu y gallwch weld hysbysebion wrth ymweld â gwefan arall yn seiliedig ar eich patrymau pori ar ein gwefan ni.

 

Sut i reoli cwcis

Gallwch osod eich porwr i beidio â derbyn cwcis, ac mae'r wefan uchod yn dweud wrthych sut i ddileu cwcis o'ch porwr. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, mae'n bosib na fydd rhai o nodweddion y wefan yn gweithio o ganlyniad i hynny.

Polisïau preifatrwydd gwefannau eraill

Mae gwefan Ein Cwmni yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Dim ond i'n gwefan ni y mae ein polisi preifatrwydd yn berthnasol, felly os byddwch yn clicio ar ddolen i wefan arall, dylech ddarllen eu polisi preifatrwydd nhw.

Newidiadau i'n polisi preifatrwydd

Mae Ein Cwmni yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 28/11/2023.

Sut i gysylltu â ni  

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am bolisi preifatrwydd y Tîm Diogelwch Cymunedol, y data rydym yn ei gadw amdanoch, neu os hoffech arfer un o'ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bostio diogeludata@caerdydd.gov.uk neu drwy'r post:   

 

Swyddog Diogelu Data  

Tîm Llywodraethu Gwybodaeth  

Neuadd y Sir  

Glanfa'r Iwerydd   

Caerdydd  

CF10 4UW    

 

Sut i gysylltu â'r awdurdod priodol   

Os hoffech gwyno neu os teimlwch nad yw'r Tîm Diogelwch Cymunedol wedi mynd i'r afael yn briodol â'ch pryder, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy eu gwefan https://ico.org.uk/concerns/getting/ neu drwy ffonio 0303 123 1113.    

 

This document is available in Welsh / Mae'r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg

 

 

​​

© 2022 Cyngor Caerdydd