Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hysbysiad Preifatrwydd Defnydd o Gamerâu a wisgir ar y Corff (CWC)

​​​​Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i gynllunio i roi gwybod i breswylwyr ac ymwelwyr yn ardal Caerdydd sut y caiff eu data personol ei brosesu o Gamerâu a Wisgir ar y Corff (CWCau), a weithredir gan Gyngor Caerdydd. Mae'r hysbysiad hwn yn disgrifio ein diben ar gyfer prosesu a'r sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni i gasglu a storio eich data personol. 

Mae Cyngor Caerdydd n defnyddio Camerâu a Wisgir ar y Corff mewn tri gwasanaeth:

  • Swyddogion Gorfodi Sifil 
  • Wardeiniaid Canol y Ddinas
  • Asiantau Gorfodi 

Pa wybodaeth bersonol y byddwn yn ei chasglu â’n Camerâu a Wisgir ar y Corff?


Mae Camerâu a Wisgir ar y Corff Cyngor Caerdydd yn cadw delweddau o bobl a cherbydau lle mae camera yn cael ei actifadu. Gall hyn gynnwys gwybodaeth adnabyddadwy fel platiau cofrestru cerbydau a delweddau o aelodau'r cyhoedd. 

At ba ddiben rydyn ni’n defnyddio Camerâu a Wisgir ar y Corff​?


Bydd y Cyngor yn defnyddio unedau Camerâu a Wisgir ar y Corff i’n cynorthwyo i roi tystiolaeth delwedd a sain at y dibenion canlynol:

  • Diogelwch i breswylwyr, gweithwyr ac ymwelwyr Caerdydd.
  • Helpu i atal, rhwystro a chanfod troseddau, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a helpu i greu amgylchedd mwy diogel i'r bobl hynny sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal ac i ymwelwyr sy'n teithio drwy'r ardal.    
  • Gwella hyfforddiant a datblygu staff.
  • Helpu i ymchwilio i unrhyw gyhuddiad o ymosod neu gam-drin lle mae aelod o staff naill ai'n ddioddefwr honedig neu'n ymosodwr honedig.

Beth yw ein sail gyfreithiol i brosesu eich data personol?


Dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni i brosesu'r wybodaeth hon yw Erthygl 6 (1): 
(c) Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol. 
(d) Mae gennym fuddiant allweddol i fywyd.
(e) Mae ei hangen arnom i gyflawni tasg gyhoeddus
(f) mae gennym fuddiant dilys.

Bydd hyn yn cynnwys materion o ran diogelwch y cyhoedd, ac atal a chanfod troseddau.​

Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich data personol? 


Efallai y byddwn yn rhannu eich data personol â sefydliadau eraill at ddibenion, gan gynnwys atal a chanfod troseddau, cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol, neu pan fo hynny'n cael ei ganiatáu'n gyfreithiol. Mae’r sefydliadau hyn yn cynnwys, efallai ymhlith eraill:

  • Adrannau eraill Cyngor Caerdydd
  • Cwmnïau yswiriant
  • Llysoedd a thribiwnlysoedd
  • Asiantaethau Gorfodi'r Gyfraith, gan gynnwys yr Heddlu 
  • Yr ombwdsman ac awdurdodau rheoliadol.

Am ba hyd byddwn yn cadw eich data personol? 


Cedwir pob recordiad teledu cylch cyfyng am ddim mwy na chyfnod o 31 diwrnod cyn cael ei ddileu'n awtomatig wedi hynny, oni bai y penderfynir ei fod yn berthnasol i ymchwiliad sy’n parhau.   Gellir cadw unrhyw recordiadau teledu cylch cyfyng y bernir eu bod yn berthnasol i ymchwiliad sy’n parhau am gyfnod estynedig a chânt eu dileu pan ddaw i ben yn unol ag amserlen cadw corfforaethol y Cyngor. ​

Sut a phryd mae'r Camerâu Corff yn cael eu defnyddio

​Pan fydd y camera’n cael ei droi ymlaen bydd yn dechrau recordio lŵp 30 eiliad treigl o fideo gyda sain. Nid yw'r camera’n cadw’r 30 eiliad o fideo oni bai bod y swyddog yn actifadu'r camera i recordio. Pan fydd y camera’n cael ei actifadu i recordio, bydd y 30 eiliad blaenorol o fideo yn cael ei gynnwys yn y recordiad.​

Beth yw eich hawliau? 


Hoffai Cyngor Caerdydd wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data.  Mae gan bob defnyddiwr hawl i'r canlynol: 

  • Eich hawl mynediad: mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol. 
  • Eich hawl i gywiro: mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.
  • Eich hawl i ddileu: mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol dan rai amgylchiadau.
  • Eich hawl i gyfyngu ar brosesu: dan rai amgylchiadau mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol.
  • Eich hawl i wrthwynebu prosesu: mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol dan rai amgylchiadau.
  • Eich hawl i gludadwyedd data: mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, dan rai amgylchiadau.


Os gwnewch chi gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi. Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, ewch i’n tudalen Camerâu Cylch Cyfyng.

Newidiadau i'n polisi preifatrwydd


Mae Cyngor Caerdydd yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar
8 Mehefin 2023.

Sut i gysylltu â ni 


Os oes gennych unrhyw gwestiynau am bolisïau preifatrwydd Cyngor Caerdydd neu’r data rydym yn ei gadw amdanoch chi, neu os hoffech arfer un o’ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Cysylltu â Diogelu Data 


Cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data i gael mwy o wybodaeth. 

Swyddog Diogelu Data


Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW 

Sut i gysylltu â’r awdurdod priodol 

 
Os hoffech gyflwyno cwyn neu os teimlwch nad yw Cyngor Caerdydd wedi mynd i'r afael â'ch pryder yn foddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth​: 0303 123 1113.​


​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd