Dyma gyfle i ddweud eich dweud am dai cyngor drwy gwblhau ein Harolwg Tenantiaid Blynyddol.
Prif ddibenion yr arolwg hwn yw:
- Cael gwybod a ydych yn fodlon ar ein gwasanaethau tai
- Monitro perfformiad Cyngor Caerdydd fel landlord
- Dysgu pa welliannau yr hoffech chi i ni eu gwneud
Bydd y wybodaeth o’r arolwg hwn yn ein helpu i wella ein gwasanaethau i chi.
Bydd gan bawb sy’n cwblhau’r arolwg gyfle i ennill gwobr:
-
gwobr gyntaf £200
- ail wobr £100
- trydedd wobr £50