Gyda chadw pellter cymdeithasol a mesurau diogelwch eraill sy’n ofynnol yn sgil haint COVID-19, bu newidiadau i ganol y ddinas i sicrhau y gall busnesau fasnachu ond gan sicrhau ei bod yn parhau’n ddiogel i breswylwyr, gweithwyr ac ymwelwyr.
Er mwyn galluogi hyn i ddigwydd mae gofod cyhoeddus yn cael ei ailfodelu ac mae cynllun cau ffyrdd wedi cael ei roi ar waith fel rhan o’r dull cam wrth gam a amlinellwyd yn Strategaeth Adfer Caerdydd.
I gefnogi’r gwaith hwn, rydym am gael barn trigolion lleol am y newidiadau sy’n digwydd er mwyn helpu i lunio trefniadau ar gyfer y dyfodol ac edrych ar sut y gallwn wella’r hyn sydd eisoes ar waith.