Rydym am wella Parc y Gamlas ac rydym wedi ymgysylltu â’r gymuned leol i nodi materion allweddol ac uchelgeisiau ar gyfer y gofod.
Rydym wedi gweithio gyda The Urbanists sydd wedi defnyddio eich adborth i ddatblygu uwchgynllun drafft ar gyfer y parc. Bydd yr uwchgynllun yn darparu strategaeth adfywio a fydd yn llywio trawsnewidiad y parc yn y dyfodol.
Mae’r syniadau newydd ar gyfer y parc yn cynnwys:
- caffi gyda thoiledau ac ystafelloedd newid babanod
- ail-wynebu a gwella cwrt pêl-fasged gyda llifoleuadau newydd
- gwell goleuadau ledled y parc
- mannau chwarae a chwaraeon diogel
Dweud eich dweud