Gallwch wneud taliadau gan ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau isod:
Trefnu Debyd Uniongyrchol
Fel arall cysylltwch â ni drwy ffonio 029 20871491.
Dylid dychwelyd ffurflenni cais ar ôl eu cwblhau i:
Cyngor Caerdydd
Blwch SP 9000
Caerdydd
CF10 3WD
Talu'ch bil Ardrethi Busnes ar-lein
Defnyddiwch ein system talu ar-lein ddiogel i dalu’ch bil Ardrethi Busnes.
Sicrhewch fod eich rhif cyfrif a’ch manylion talu wrth law gennych. Mae rhif eich cyfrif yn 11 digid o hyd ac yn dechrau gyda 1.
Dros y ffôn gan ddefnyddio Cerdyn Debyd/Credyd
Ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 029 20872088
Drwy’r Post
Anfonwch eich siec / archeb bost ynghyd â’ch cerdyn talu i:
Cyngor Caerdydd
Blwch SP 9000
Caerdydd
CF10 3WD
Dylid croesi Sieciau / Archebion Post a’u gwneud yn daladwy i Cyngor Caerdydd. Ni ddylid anfon sieciau at unrhyw swyddog unigol. Ni dderbynnir sieciau ôl-ddyddiedig. Peidiwch ag anfon arian parod drwy’r post.
I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor mae croeso i chi gysylltu â ni
029 20871491