Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Atgyweirio ac atgynhyrchu ffenestri a drysau traddodiadol

Os ydych chi'n atgyweirio neu’n gosod ffenestri neu ddrysau newydd (PDF, 955 KB) mewn adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth, mae'n debygol y bydd polisïau a rheolaethau cynllunio arbennig yn berthnasol, sy'n golygu y bydd angen caniatâd cynllunio neu ganiatâd adeilad rhestredig arnoch.

Mewn perthynas â hyn, mae'r Cyngor yn aml yn cael ceisiadau am enwau a chyfeiriadau atgyweirwyr, gweithgynhyrchwyr neu gyflenwyr ffenestri.

Er na allwn wneud unrhyw argymhellion uniongyrchol, isod ceir rhestr o gwmnïau a allai ymgymryd â gwaith adnewyddu ac ailwampio ffenestri a drysau traddodiadol yng Nghaerdydd.Cofiwch, er mwyn cynnal ffabrig a chymeriad hanesyddol, mae gwaith atgyweirio (4.6mb PDF) bron bob tro'n ddewis gwell na gosod o'r newydd, ac nid oes angen caniatâd cynllunio i wneud hynny.

Dylech gadarnhau bob tro p'un a oes angen caniatâd adeilad rhestredig.

Dylid pwysleisio nad yw'r rhestr hon yn rhestr o gyflenwyr a argymhellir: gallwch ddod o hyd i grefftwyr, cwmnïau neu gyflenwyr eraill ar-lein.

Yn y pendraw, chi sy'n gyfrifol am ddod o hyd i gyflenwr sy'n eich bodloni chi o ran pris, ansawdd y deunydd a'r gwaith crefft tebygol. Mae hefyd yn bwysig i'r cwmni a ddewisir allu paratoi'r darluniadau priodol.

Os oes angen caniatâd ar gyfer eich gwaith sydd gennych mewn golwg, gallai trafodaethau cyn y cais arbed amser ac oedi ar y cam ymgeisio.

Gallai enghreifftiau penodol gynnwys:

  • caniatâd cynllunio, neu

  • ganiatâd adeilad rhestredig.

Os byddwch yn cysylltu â ni drwy ein ffurflen cyn gwneud cais, efallai y gallwn roi syniad i chi a oes angen un o'r rhain arnoch.

Cysylltu â ni