Roedd yr Alwad Agored yn rhoi cymorth ariannol drwy gynllun grant. Sefydlwyd y cynllun grant i gefnogi buddsoddiadau cyfalaf a refeniw mewn unrhyw faes a allai dderbyn arian gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae’r gronfa wedi cael ei defnyddio i helpu i gryfhau cymunedau, meithrin balchder mewn lleoedd, a sicrhau budd economaidd.
Roedd y grantiau ar gael i amrywiaeth o sectorau a sefydliadau addysgol. Roeddent yn gallu gwneud cais am isafswm o £10,000 ac uchafswm o £250,000.
Caeodd y cynllun ddydd Gwener 18 Awst 2023.
Bydd Cynllun Grantiau Bach C3SC yn rhoi cymorth i sefydliadau'r trydydd sector gyflawni prosiectau sy'n gweithio gyda nodau ac amcanion y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Bydd y cynllun grant hwn yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r materion a nodir yn Blaenoriaeth Cymuned a Lle.
Gall prosiectau arfaethedig ddechrau o fis Gorffennaf 2023 a gellir eu hariannu hyd at ddiwedd mis Chwefror 2024.
Gallwch wneud cais am uchafswm o £5,000.
Gallwch gael mwy o wybodaeth ar wefan C3SC