Mae gwefan Cardiff Gov ar gael yn Gymraeg a Saesneg ond efallai y byddwch am gael mynediad at gynnwys ar y wefan hon neu wefannau eraill yn eich iaith eich hun.
Gallwch wneud hyn drwy fynd i
Google Translate a dewis eich dewis iaith o'r ddewislen.
Rydym yn argymell gosod yr iaith wreiddiol i 'Ganfod iaith'.
Rhowch gyfeiriad y wefan rydych chi am ei chyfieithu a dewis y botwm cyfieithu neu 'Fynd' ar ddyfais symudol.
Yna bydd Google yn dangos y wefan mewn tab newydd gan ddefnyddio'r iaith rydych chi wedi'i dewis.
Newid rhwng y wefan wreiddiol a’r un a gyfieithiwyd
Pan fyddwch chi'n agor gwefan wedi'i chyfieithu, gallwch newid rhwng y fersiynau gwreiddiol a chyfieithu trwy ddewis 'Gwreiddiol' o'r gwymplen cyfieithu ar frig y dudalen.
Help gyda chyfieithu gwefannau a dogfennau
I gael rhagor o gyngor ar gyfieithu gwefannau a dogfennau ar ddyfeisiau bwrdd gwaith a symudol, ewch i
Help cyfieithu Google.