Gall cyllid ddod o lawer o wahanol ffynonellau. Rydym wedi tynnu sylw at rai cyfleoedd ariannu allanol.
Mae'r sefydliad hwn yn darparu cymorth a chyngor i sefydliadau'r trydydd sector o ran mynediad i gyfleoedd cyllid.
Mae'r sefydliad hwn yn rheoli sawl cynllun ariannu gwahanol sydd o fudd i'r sector gwirfoddol yng Nghymru.
Mae gan Sefydliad Cymunedol Cymru nifer o gyfleoedd cyllid ar gael hefyd.
Plant a phobl ifanc
Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd cyllid allanol sydd ar gael.
Y Clothworkers Foundation yw cangen elusennol y Clothworkers Company, sy'n darparu grantiau tuag at brosiectau cyfalaf ers 1977.
Pwy all wneud cais?
Elusennau cofrestredig, cwmnïau buddiannau cymunedol, sefydliadau elusennol corfforedig ac ysgolion arbennig.
Amcanion y gronfa
Bydd y sefydliad yn darparu cyllid cyfalaf tuag at:
- adeiladau (ffitio, gosodiadau ac offer), a
- cerbydau (ac eithrio prydlesu).
Swm y cyllid i bob prosiect
Mae grantiau bach a mawr ar gael.
Dyddiad cau
Nid oes dyddiad cau ar gyfer y cyllid hwn.
Ewch i
wefan y Clothworkers' Foundation i gael mwy o wybodaeth.
Yn 2017, lansiodd Dŵr Cymru Gronfa Gymunedol Dŵr Cymru. Ers hynny, mae wedi rhoi dros £500,000 i gefnogi cannoedd o fentrau cymunedol lleol.
Pwy all wneud cais?
Ysgolion, ymddiriedolaethau elusennol, cymdeithasau tai a chymdeithasau llesiant.
Amcanion y gronfa
- Gwneud gwelliannau i'r amgylchedd neu fentrau cymunedol lleol sy'n hyrwyddo amcanion iechyd, lles ac amgylcheddol,
- ariannu gweithgareddau a wneir gan grwpiau cymunedol cofrestredig: yn benodol rhai ag amcanion iechyd, lles, cymorth costau byw, ac amgylcheddol, a
- gwella a chefnogi gweithgareddau addysg lleol. Er enghraifft, hyrwyddo addysg am effeithlonrwydd dŵr a'i fanteision amgylcheddol drwy arloesi.
Swm y cyllid i bob prosiect
Gallwch hawlio hyd at £5,000 mewn grantiau.
Dyddiad cau
Derbynnir ceisiadau ar-lein 3 gwaith y flwyddyn am 8 wythnos ar y tro.
Dyddiadau 2024:
- 1 Mai tan 30 Mehefin, a
- 1 Medi tan 31 Hydref.
Dyddiadau 2025:
- 1 Ionawr tan 28 Chwefror.
Ewch i wefan Dŵr Cymru i gael mwy o wybodaeth am y Gronfa Gymunedol.
Bwriad y prosiect hwn yw cefnogi prosiectau sy'n cyflawni canlyniadau cadarnhaol i gymunedau lleol ac sy'n bodloni o leiaf un o flaenoriaethau Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sef:
-
dod â phobl ynghyd i adeiladu perthynas gref mewn ac ar draws cymunedau,
-
gwella'r lleoedd a'r mannau sy'n bwysig i gymunedau,
-
helpu rhagor o bobl i gyrraedd eu potensial, drwy eu cefnogi ar y cam cynharaf posibl, a
-
cefnogi pobl, cymunedau a sefydliadau sy'n wynebu mwy o ofynion a heriau oherwydd yr argyfwng costau byw.
Gall prosiectau a gefnogir gan Arian i Bawb gynnwys cyflwyno gweithgaredd newydd neu bresennol neu gefnogi sefydliad i newid ac addasu i heriau newydd ac yn y dyfodol.
Pwy all wneud cais?
Sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, ysgolion a chyrff statudol.
Amcanion y gronfa
Cefnogi prosiectau sy'n gwella bywydau cymunedau lleol, a helpu sefydliadau cymunedol i newid ac addasu i heriau newydd ac yn y dyfodol.
Swm y cyllid i bob prosiect
Gallwch hawlio rhwng £300 a £10,000 mewn grantiau.
Dyddiad cau
Nid oes dyddiad cau wedi'i nodi.
Ewch i wefan Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gael mwy o wybodaeth.
Mae grantiau ar gael i grwpiau cyfansoddiadol a sefydliadau nid er elw ar gyfer achosion da lleol sy'n canolbwyntio ar gefnogi plant a theuluoedd yn y DU.
Pwy all wneud cais?
Er bod y pwyslais presennol ar ysgolion a sefydliadau sy'n gweithio gydag ysgolion, gall sefydliadau dielw yn y DU wneud cais os ydynt yn gyfansoddiadol a bod ganddynt ddogfen lywodraethu.
Mae hyn yn cynnwys:
- sefydliadau gwirfoddol a chymunedol,
- elusennau cofrestredig,
- cwmnïau buddiannau cymunedol cyfyngedig drwy warant a fu'n rhedeg am o leiaf 2 flynedd,
- grwpiau cyfeillion,
- mentrau cymdeithasol,
- cymdeithasau diwydiannol a darbodus,
- ysgolion,
- cyrff iechyd fel ymddiriedolaethau ysbytai'r GIG ac ymddiriedolaethau sylfaen,
- cynghorau plwyf, tref, neu gymuned,
- awdurdodau lleol,
- hosbisau,
- canolfannau gofal dydd, a
- cymdeithasau tai.
Amcanion y gronfa
Cael ysgolion sydd â diffyg arian ac adnoddau i wneud cais am gymorth ariannol ychwanegol, i ddarparu bwyd a gweithgareddau iach sy'n hybu lles meddyliol a chorfforol pobl ifanc.
Swm y cyllid i bob prosiect
Gallwch hawlio hyd at £1,500 mewn grantiau.
Dyddiad cau
Nid oes dyddiad cau wedi'i nodi.
Ewch i wefan Grantiau Cymunedol Tesco i gael mwy o wybodaeth.
Mae ceisiadau ar agor i glybiau pêl-droed ar lawr gwlad ledled y DU.
Pwy all wneud cais?
Rhaid i grwpiau fod wedi eu cyfansoddi a bod â dogfen lywodraethu a pholisi diogelu ar waith.
Amcanion y gronfa
Nod y cyllid yw cefnogi sefydliadau pêl-droed ar lawr gwlad sy'n gweithio gyda phlant dan 18 oed, fel y gallant barhau i ddarparu gweithgareddau a chael mwy o bobl ifanc i gymryd rhan.
Swm y cyllid i bob prosiect
Gallwch hawlio hyd at £1,000 mewn grantiau.
Dyddiad cau
30 Ebrill 2024.
Ewch i wefan Stronger Starts am fwy o wybodaeth.
Mae'r cynllun LoveReading4Kids yn darparu cyllid i ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth yn y DU i gefnogi mynediad at lyfrau, a gadael i blant brofi darllen er pleser.
Pwy all wneud cais?
Ysgolion cynradd ac uwchradd a lleoliadau blynyddoedd cynnar a ariennir gan y wladwriaeth.
Amcanion y gronfa
Bydd LoveReading4Kids yn darparu grantiau i ysgolion drwy gredyd i'w wario yn eu siop lyfrau ar-lein i brynu llyfrau nad ydynt ar y cwricwlwm.
Swm y cyllid i bob prosiect
Gallwch hawlio rhwng £1,000 a £5,000 mewn grantiau, a ddyfernir ar ffurf credyd.
Dyddiad cau
Nid oes dyddiad cau wedi'i nodi.
Ewch i wefan LoveReading4Kids i gael mwy o wybodaeth.
Mae'r Gymdeithas Ysgolion Prydain a Thramor yn cefnogi sefydliadau elusennol sy'n gweithio i wella mynediad at addysg neu ansawdd addysg i blant a phobl ifanc o dan 25 oed, yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae'n dyfarnu tua £900,000 mewn grantiau newydd bob blwyddyn.
Pwy all wneud cais?
Derbynnir ceisiadau gan elusennau cofrestredig yn y DU sydd ag incwm blynyddol o rhwng £25,000 a £2.5 miliwn, ac o leiaf 3 blynedd o gyfrifon di-dor. Mae'n rhaid i sefydliadau cymwys fod yn y Deyrnas Unedig.
Ar gyfer prosiectau'r DU, mae ysgolion, academïau, colegau a sefydliadau addysgol eraill a ariennir gan y wladwriaeth (ni waeth beth fo'u hincwm) yn gymwys, ar yr amod y gallant ddangos effaith rhwydwaith y tu hwnt i un ysgol unigol.
Amcanion y gronfa
Hyrwyddo cyfleoedd addysgol yn y DU a gwledydd datblygol.
Drwy brosiectau yn y DU, mae'r Gymdeithas yn cefnogi gwaith i wella canlyniadau addysgol a chyfleoedd bywyd y canlynol:
- pobl ifanc sydd wedi'u dadleoli,
- gofalwyr ifanc, a
- pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal.
Swm y cyllid i bob prosiect
Gallwch hawlio grantiau rhwng £30,000 a £90,000 ar gyfer prosiectau yn y DU o 1 i 3 blynedd, neu hyd at £30,000 y flwyddyn ar gyfer prosiectau aml-flwyddyn yn y DU.
Dyddiad cau
Nid oes dyddiad cau wedi'i nodi.
Ewch i wefan Cymdeithas Ysgolion Prydain a Thramor i gael mwy o wybodaeth.
Mae Rhaglen Llyfrgell Ysgol Foyle yn darparu cyllid i ysgolion ledled y DU sy'n dymuno gwella eu gwasanaethau llyfrgell ysgol.
Pwy all wneud cais?
Mae ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth yn y Deyrnas Unedig yn gymwys i wneud cais.
Amcanion y gronfa
Helpu ysgolion i wella'u gwasanaethau llyfrgell. Y gobaith yw drwy annog plant i ddarllen yn eang, y bydd cynnydd enfawr yn lefelau llythrennedd, sydd ar hyn o bryd yn amcan addysgol cenedlaethol allweddol.
Swm y cyllid i bob prosiect
Gallwch hawlio rhwng £2,000 a £10,000 mewn grantiau.
Dyddiad cau
30 Medi 2024.
Ewch i wefan Sefydliad Foyle i gael mwy o wybodaeth am y cynllun.
Mae'r Gymdeithas yn darparu cyllid i nifer fach o brosiectau mawr, a ystyrir o fudd sylfaenol i'r ddisgyblaeth. Mae ceisiadau llwyddiannus fel arfer ar gyfer prosiectau sy'n ceisio cefnogi ac annog astudio pynciau clasurol mewn ysgolion a cholegau chweched dosbarth.
Pwy all wneud cais?
Mae grantiau'r Gymdeithas fel arfer yn ariannu gweithgareddau a wneir gan athrawon ysgol, myfyrwyr, academyddion a sefydliadau.
Amcanion y gronfa
- Cefnogi addysgu a dysgu pynciau a thopigau clasurol, yn bennaf yn ysgolion y DU, ond hefyd ymhlith y cyhoedd,
- cynyddu mynediad at y clasuron, gan ehangu cyfranogiad a chanlyn amcanion CAC yng nghlasuron y DU, a
- cynyddu cynaliadwyedd a hyfywedd y clasuron fel disgyblaeth yn ysgolion y DU a thu hwnt.
Swm y cyllid i bob prosiect
Gallwch hawlio hyd at £5,000 mewn grantiau. Dim ond dwywaith y flwyddyn y mae grantiau mwy na hyn yn cael eu hystyried.
Dyddiad cau
Dyddiadau:
-
1 Mehefin,
-
1 Medi, a
-
1 Rhagfyr.
Ewch i wefan y Classical Association i gael mwy o wybodaeth am grantiau.
Mae grantiau ar gael i grwpiau cymunedol, ysgolion a sefydliadau dielw eraill ar gyfer prosiectau sy'n hyrwyddo addysg, cyfranogiad, yr amgylchedd, amrywiaeth ac iechyd yn y DU.
Pwy all wneud cais?
Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried gan grwpiau cymunedol, ysgolion a sefydliadau sydd wedi'u lleoli ac yn gweithio yn y DU.
Amcanion y gronfa
Sbarduno prosiectau gweithredu uniongyrchol ar lawr gwlad sy'n mynd i'r afael â materion fel amrywiaeth a chynhwysiant yn yr awyr agored, cyfranogiad, addysg, cadwraeth a diogelu'r amgylchedd naturiol ac iechyd a lles.
Swm y cyllid i bob prosiect
Gallwch hawlio rhwng £50 a £500 mewn grantiau.
Dyddiad cau
Nid oes dyddiad cau wedi'i nodi.
Ewch i wefan Alpkit i gael mwy o wybodaeth.
Lansiwyd y Gwasanaeth Ynni ym mis Hydref 2018 ac fe'i hariennir gan Lywodraeth Cymru. Cyflawnir y cynllun drwy gonsortiwm, dan arweiniad yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a'r Ymddiriedolaeth Garbon ac fe'i cefnogir gan Bartneriaethau Lleol. Mae'r consortiwm yn cynnwys Ricardo Energy and Environment, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Regen, GEP Environmental, Awel Aman Tawe ac Ecodyfi.
Pwy all wneud cais?
Derbynnir ceisiadau gan sefydliadau'r sector cyhoeddus a grwpiau cymunedol yng Nghymru. Mae sefydliadau cymwys yn cynnwys:
- awdurdodau lleol,
- byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau,
- prifysgolion, colegau ac ysgolion,
- parciau cenedlaethol,
- gwasanaethau tân ac achub,
- llyfrgelloedd ac amgueddfeydd cenedlaethol,
- cynghorau celfyddydau a chwaraeon,
- cynghorau cymuned, a
- mentrau cymunedol.
Amcanion y gronfa
Cynnig cymorth cynllunio ariannol, technegol a chyllid fel benthyciadau di-log a grantiau i'r sector cyhoeddus a grwpiau cymunedol yng Nghymru. Mae hyn i gefnogi datblygiad eu cynlluniau ynni adnewyddadwy.
Swm y cyllid i bob prosiect
Nid oes unrhyw isafswm nac uchafswm o gyllid wedi'i nodi.
Dyddiad cau
Nid oes dyddiad cau wedi'i nodi.
Ewch i adran y Gwasanaeth Ynni ar wefan Llywodraeth Cymru i gael mwy o wybodaeth.
Mae Pobl a Lleoedd yn rhaglen grantiau a ddarperir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi prosiectau lle mae pobl a chymunedau'n cydweithio ac yn defnyddio eu cryfderau i gael effeithiau cadarnhaol ar y pethau sydd bwysicaf iddynt.
Pwy all wneud cais?
Mae Pobl a Lleoedd yn agored i grwpiau cymunedol a gwirfoddol a sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys:
- sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol,
- elusennau cofrestredig,
- grwpiau cyfansoddiadol neu glybiau,
- cwmnïau buddiannau cymunedol,
- mentrau cymdeithasol,
- ysgolion, a
- cyrff statudol gan gynnwys cynghorau tref, plwyf neu gymuned.
Amcanion y gronfa
Cefnogi mudiadau gwirfoddol, cymunedol a'r sector cyhoeddus gyda phrosiectau yng Nghymru sy'n cyflawni canlyniadau cadarnhaol i gymunedau lleol.
Gall prosiectau a gefnogir gan Bobl a Lleoedd gynnwys y rhai sydd wedi'u cynllunio i helpu cymunedau i adfer, ailadeiladu a thyfu o bandemig COVID-19.
Swm y cyllid i bob prosiect
-
Gallwch hawlio grantiau canolig sy'n cynnig cyllid o £10,001 i £100,000 ar gyfer prosiectau sy'n para hyd at 5 mlynedd.
- Gallwch hawlio grantiau mawr sy'n cynnig cyllid o £100,001 i £500,000 ar gyfer prosiectau sy'n para hyd at 5 mlynedd.
Dyddiad cau
Camau Cynaliadwy Cymru: Gyrfaoedd Gwyrdd – 30 Ebrill 2024 am 5pm.
Ewch i wefan Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gael mwy o wybodaeth.
Mae Plant Mewn Angen y BBC yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc difreintiedig. Mae'n ariannu sefydliadau sy'n gweithio i frwydro yn erbyn y difreintedd hyn.
Pwy all wneud cais am grantiau craidd neu brosiectau?
Gall sefydliadau dielw cofrestredig sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc difreintiedig 18 oed neu iau sy'n byw yn y DU, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel wneud cais.
Y sefydliadau sy'n bodloni'r meini prawf hyn yw:
- cwmnïau buddiant cymunedol,
- cwmnïau cyfyngedig drwy warant gan gynnwys mentrau cymdeithasol,
- cymdeithasau tai,
- cymdeithasau buddiannau cymunedol diwydiannol a darbodus,
- elusennau cofrestredig,
- sefydliadau crefyddol,
- ysgolion arbennig, a
- hosbisau.
Amcanion y gronfa
Dosbarthu arian a godir bob blwyddyn fel grantiau i sefydliadau sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc difreintiedig, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w bywydau.
Swm y cyllid i bob prosiect
Yr uchafswm grant yw £120,000 (neu £40,000 dros 3 blynedd), er bod y rhan fwyaf o grantiau a wneir am swm llawer llai na hyn. Gall y ffrwd grantiau craidd gefnogi sefydliadau am hyd at 3 blynedd.
Dyddiad cau
Nid oes dyddiad cau wedi'i nodi.
Dysgwch fwy am
grantiau craidd a
grantiau prosiect Plant Mewn Angen y BBC.
Mae’r gronfa hon wedi’i sefydlu i feithrin talent newydd a phresennol yn y diwydiannau creadigol.
Pwy all wneud cais?
Gall unrhyw sefydliad neu fusnes sydd â hanes o gyflawni prosiectau sgiliau a hyfforddiant o ansawdd uchel yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru wneud cais.
Amcanion y gronfa
Diben y gronfa yw helpu pobl yn y diwydiannau creadigol gyda’r canlynol:
- hyfforddiant busnes ac arweinyddiaeth,
- cymorth recriwtio amrywiol a chynhwysol,
- dod o hyd i leoliadau a chyfleoedd ar lefelau gwahanol,
- darparu addysg a chwricwla,
- hyrwyddo lles y gweithlu,
- cymorth i weithwyr llawrydd,
- ymwybyddiaeth o yrfaoedd, a
- phontio bylchau rhwng addysg uwch a diwydiannau.
Mae cyllid ar gael ar gyfer prosiectau sy'n gallu cyflawni yn erbyn 1 neu fwy o'r blaenoriaethau hyn. Mae'r cylch cyllido presennol yn blaenoriaethu prosiectau sy'n llenwi bylchau sgiliau o fewn y sectorau sgrin, cerddoriaeth, animeiddio, gemau, a thechnoleg drochi.
Swm y cyllid i bob prosiect
Gallwch hawlio rhwng £25,000 a £125,000 y prosiect.
Dyddiad cau
10 Mai 2024 am 12 hanner dydd.
Ewch i wefan Cymru Greadigol i gael mwy o wybodaeth.