Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cronfa Lleoliadau Llawr Gwlad Caerdydd

​​​​​​​Bydd y Gronfa Lleoliadau Llawr Gwlad CFfG (Cronfa Ffyniant Gyffredin) newydd yn cefnogi lleoliadau presennol i fuddsoddi yn eu lleoliad i'w wneud yn fwy cynaliadwy yn ariannol neu'n amgylcheddol. Bydd y gronfa newydd ar gael i leoliadau o fewn Awdurdod Lleol Caerdydd sy'n bodloni'r meini prawf canlynol: ​​


  • Cwmni cyfyngedig, menter gymdeithasol gofrestredig, CBC neu elusen. 
  • Gyda throsiant gweithredu yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf uwchlaw'r trothwy TAW (£85,000).
  • Busnes sefydledig sydd wedi bod yn masnachu am dros dau​​​​ flynedd.  
  • Lleoliad Caerdydd a'i brif bwrpas yw perfformiad diwylliannol
  • BBaCh (llai na 250 o weithwyr a throsiant blynyddol o dan €50 miliwn). 

 

Bydd ceisiadau busnes yn cael eu hystyried ar gyfer buddsoddiadau sy'n cysylltu â Strategaeth Adfer Cryfach, Tecach, Gwyrddach y ddinas a Strategaeth Cerddoriaeth Caerdydd, ac sy'n cyflawni'r canlynol:

  • Creu Swyddi a diogelu swyddi – bydd hyn yn cael ei fonitro dros gyfnod o 12 mis
  • Llai o ddefnydd o ynni a gostyngiadau CO2
  • Mwy o hygyrchedd o ran y lleoliad

 

Bydd y Gronfa Lleoliadau Llawr Gwlad yn cynnwys:

 

  • Grantiau cyfalaf o £1,000 i £10,000
  • Ar gael i fusnesau sydd â chyfeiriad busnes cofrestredig yng Nghaerdydd
  • Angen dau​ ddyfynbris ar gyfer gwariant y prosiect
  • Bydd y grant yn 50% o gyfanswm gwariant y prosiect ac eithrio TAW 
  • Ni ddylid bod wedi rhoi blaendal ar gyfer eitemau na bod wedi ymrwymo i'w prynu cyn cael cymeradwyaeth. 

 

Bydd angen i ymgeiswyr hefyd ddangos a all cyllid grant helpu i gyfrannu at les economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Caerdydd.

 

Cysylltwch â cronfalleoliadCaerdydd@caerdydd.gov.uk am ragor o wybodaeth am feini prawf cymhwysedd a manylion ymgeisio.

 

Gall ymgeiswyr hefyd wneud cais i Gronfa Twf Caerdydd. ​​​

Ffyniant Bro a Llywodraeth y DU Cymru logo

​​​​​​

Bydd y Gronfa Lleoliadau Llawr Gwlad CFfG (Cronfa Ffyniant Gyffredin) newydd yn cefnogi lleoliadau presennol i fuddsoddi yn eu lleoliad i'w wneud yn fwy cynaliadwy yn ariannol neu'n amgylcheddol. Bydd y gronfa newydd ar gael i leoliadau o fewn Awdurdod Lleol Caerdydd sy'n bodloni'r meini prawf canlynol:

  • Cwmni cyfyngedig, menter gymdeithasol gofrestredig, CBC neu elusen.
  • Gyda throsiant gweithredu yn ystod y dau flynedd ddiwethaf uwchlaw'r trothwy TAW (£85,000).
  • Busnes sefydledig sydd wedi bod yn masnachu am dros dau flynedd. 
  • Lleoliad Caerdydd a'i brif bwrpas yw perfformiad diwylliannol
  • BBaCh (llai na 250 o weithwyr a throsiant blynyddol o dan €50 miliwn)

Sut gall lleoliadau ymgeisio?

Gall lleoliadau wneud cais am y grant drwy fynd i wefannau cymorth busnes y Cyngor.  Os yw'r lleoliad yn bodloni'r meini prawf uchod, yna gellir gofyn am ffurflen gais drwy gyfeiriad e-bost y gronfa:

cronfalleoliadCaerdydd@caerdydd.gov.uk neu Cardiffvenuefund@cardiff.gov.uk

Nodwch fod pob maes yn orfodol – bydd methu â'u cwblhau yn golygu y caiff eich cais ei wrthod. 

Caiff ceisiadau eu trin ar sail y cyntaf i'r felin.  Gallai hyn olygu na fydd ceisiadau'n cael eu gwerthuso ar ôl iddynt gael eu cyflwyno os yw'r holl arian eisoes wedi'i ddyrannu. Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am hyn drwy e-bost.

Mae gan yr Awdurdod Lleol ddisgresiwn llwyr o ran hyd a thelerau'r gronfa.

Faint o grant sydd ar gael i fy musnes?

Mae Cronfa Lleoliadau Llawr Gwlad Caerdydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar agor i geisiadau am grantiau rhwng £1000 a £10,000 i leoliadau llawr gwlad sydd â chyfeiriad busnes cofrestredig yng Nghaerdydd. Bydd y dyfarniadau grant yn 50% o gyfanswm gwariant y prosiect ac eithrio TAW.   Ni ddylid bod wedi rhoi blaendal ar gyfer eitemau grant cymwys nac ymrwymo i'w prynu cyn cael cymeradwyaeth. 

 

Beth gellir defnyddio'r grant tuag ato?

Gallai enghreifftiau o wariant cymwys gynnwys:

  • Peiriannau a chyfarpar
  • Teledu cylch cyfyng, arwyddion, gwelliannau i eiddo masnachol
  • Astudiaethau Dichonoldeb

  • Ffioedd proffesiynol penseiri, dylunwyr graffeg ac ati
  • Llai o ddefnydd o ynni a gostyngiadau CO2
  • Mwy o hygyrchedd o ran y lleoliad

Gwariant Anghymwys

  • Prynu eiddo 
  • Costau rhedeg / refeniw arferol neu barhaus (gan gynnwys rhenti, ardrethi, yswiriant, cyflogau, rhenti parhaus).
  • Prynu masnachfraint
  • Costau refeniw cyffredinol
  • Prynu nwyddau / stoc at bwrpas gwerthu
  • Prynu nwyddau neu offer at ddiben rhentu
  • Prynu cerbydau

 

Sylwer nad yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr.

Pa wybodaeth y bydd angen i mi ei rhoi?

  • Ffurflen gais wedi'i chwblhau a'i llofnodi
  • Dau ddyfynbris yn ymwneud â phob elfen o wariant cymwys
  • Rhagolygon llif arian parod 12 mis a thair blynedd o gyfrifon
  • Os oes angen caniatâd cynllunio neu newid defnydd sy'n ymwneud â safle / adeilad masnachol ar gyfer y prosiect yna mae angen darparu tystiolaeth o gymeradwyaeth cyn y gellir cymeradwyo grant
  • Prawf o'r arian sydd ar gael boed hynny mewn cyfrif busnes neu'n fenthyciad i alluogi pryniant 100% cyn hawlio grant
  • O fewn y cais bydd angen i chi fanylu ar sut y bydd y cyllid yn ymwneud â phob ymyrraeth ac amlinellu'r allbynnau a'r canlyniadau disgwyliedig ar gyfer y prosiect (gellir dod o hyd i fwy o fanylion ar y ddogfen gysylltiedig wrth ymyl y nodyn canllaw hwn ar y wefan)

Beth sy'n digwydd ar ôl i'r cais ddod i law?

Byddwn yn cydnabod derbyn eich cais o fewn 10 diwrnod gwaith.

Gwneir penderfyniadau ar geisiadau ar sail y wybodaeth a gyflwynir yn y ffurflen gais, y dystiolaeth gysylltiedig a'r gwiriadau gwybodaeth a wneir o ffynonellau data busnes eraill.  Os yw unrhyw ddata yn anghyflawn neu'n anghywir neu os yw'r dystiolaeth a ddarparwyd yn annigonol, ni fyddwn yn gallu prosesu'r cais, a chaiff ei wrthod.

Os byddwch yn llwyddiannus cewch lythyr cymeradwyo yn nodi'r cynnig grant a thelerau ac amodau'r grant.  Bryd hynny gall y busnes ymgymryd â'r gwariant prosiect a nodir yn y cais ac yna ddarparu tystiolaeth o anfonebau sydd wedi'u talu a chyfriflenni banc fel tystiolaeth o wariant yn erbyn yr eitemau cymwys. Ar ôl i'r anfonebau hyn gael eu derbyn a'u gwirio, bydd y taliad grant yn cael ei wneud.

Bydd angen i ymgeiswyr gydnabod cefnogaeth gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin hefyd a chytuno y gellir defnyddio'r busnes neu'r sefydliad mewn gweithgarwch hyrwyddo sy'n gysylltiedig â'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Os na fydd eich cais yn llwyddiannus, cewch e-bost yn amlinellu'r rheswm/rhesymau dros wrthod.  Nid oes proses apelio.

 

Os yw'r lleoliad yn llwyddo i gael grant, beth sy'n digwydd wedyn?

Bydd y Cyngor yn gofyn am wybodaeth a thystiolaeth yn achlysurol gan y busnes i fonitro'r allbynnau a gyflawnir o fewn cais cymeradwy'r busnes (twf swyddi, cynnydd mewn trosiant, gwelliannau amgylcheddol ac ati).

Dylai ymgeiswyr nodi y gall fod angen ad-dalu'r grant yn llawn neu'n rhannol i'r Awdurdod Lleol os daw tystiolaeth i law nad oedd yr ymgeisydd yn gymwys ar gyfer Cronfa Lleoliadau Llawr Gwlad Caerdydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Mae gan Gyngor Caerdydd ddisgresiwn llwyr dros delerau, cymhwysedd a phenderfyniadau dyfarniadau grant Cronfa Lleoliadau Llawr Gwlad Caerdydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac mae'n cadw'r gallu i ddiwygio meini prawf ar unrhyw adeg.

Rhaid i geisiadau am grant roi gwerth am arian wedi'i gysylltu â'r ymyriadau, allbynnau a chanlyniadau (106kb PDF) allweddol a sefydlwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.



 

© 2022 Cyngor Caerdydd