Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Ymgynghoriad ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol

Rydym yn ymgynghori ar ein Map rhwydwaith teithio llesol ac yn dymuno clywed eich barn chi. Mae hwn yn gynllun 15 mlynedd ar gyfer gwella llwybrau ar gyfer:

  • cerdded, 
  • olwyno, a
  • beicio. 

Mae'r cynllun yn cynnwys llwybrau presennol a llwybrau arfaethedig yn y dyfodol. 

Pam rydyn ni'n ymgynghori 

Cafodd ein Map Rhwydwaith Teithio Llesol presennol ei gymeradwyo ar 1 Rhagfyr 2022. O dan y Ddeddf Teithio Llesol, mae'n rhaid i ni ddiweddaru hyn yn rheolaidd a chyflwyno ein fersiwn wedi'i diweddaru i Lywodraeth Cymru ar 1 Rhagfyr 2026. 

Gall eich ymatebion ein helpu: 

  • i gael adborth ar lwybrau presennol, a 
  • gwneud yn siŵr bod llwybrau arfaethedig yn y dyfodol yn gwasanaethu teithiau pobl. 

Yr hyn rydym yn ei gynnig 

Byddai diweddariadau i'n Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn dangos: 

  • Tynnu llwybrau a adeiladwyd ers 2021 o 'lwybrau yn y dyfodol' a'u hychwanegu at y map 'llwybrau presennol' 
  • Adolygiadau o lwybrau yn y dyfodol, yn unol â pholisïau a chynlluniau a ddatblygwyd ers 2021​

Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol yn ôl ward​

Edrychwch ar Fap Rhwydwaith Teithio Llesol cyfredol eich ward i ddarganfod mwy. 

Os na allwch gael mynediad i'r mapiau hyn neu os oes angen cymorth arnoch i'w darllen, cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth. 

E-bost: [email protected]

 

Dweud eich dweud 

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cau ar ddydd Llun 3 Awst. ​

Hoffem glywed eich barn. Os hoffech wneud unrhyw sylwadau, cwblhewch yr arolwg. 

Cwblhau'r arolwg Map Rhwydwaith Teithio Llesol

Er na allwn ymateb yn unigol, byddwn yn ychwanegu'r holl faterion a godwyd at ein hadroddiad ymgynghori. Bydd hwn ar gael ar-lein neu ar gais yn y dyfodol, ar ôl i ni gau'r ymgynghoriad ac adolygu adborth.

Llwybrau presennol

Mae'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn dangos llwybrau sy'n addas ar gyfer teithio llesol. Rhaid i'r llwybrau hyn fod yn addas ar gyfer cerdded, olwyno neu feicio a helpu pobl i wneud teithiau bob dydd (er enghraifft i'r gwaith neu i'r ysgol). Nid yw llwybrau cerdded neu feicio sy'n cael eu defnyddio at ddibenion hamdden yn unig yn llwybrau teithio llesol. 

Mae ansawdd y llwybrau yn cael ei asesu ochr yn ochr â Canllawiau Dylunio Teithio Llesol Llywodraeth Cymru​. Dangosir llwybrau sy'n sgorio mwy na 70% ar y map. Mae llwybrau sy'n sgorio rhwng 60 a 70% yn cyd-fynd â datganiad sy'n rhoi mwy o wybodaeth am y materion sy'n effeithio ar ansawdd y llwybr. Ni ellir dangos llwybrau sy'n sgorio llai na 60%, neu sydd â phroblemau sylweddol fel llif cerbydau uchel, llwybrau cul, neu ddiffyg cyrbau isel ar y map.

 

Llwybrau yn y dyfodol

Mae'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol hefyd yn dangos llwybrau teithio llesol yn y dyfodol y mae angen eu datblygu neu eu gwella i greu mwy o lwybrau teithio llesol presennol. Mae'r cynllun ar gyfer llwybrau yn y dyfodol yn un hirdymor (15 mlynedd neu fwy). 

Mae'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn dangos aliniad arfaethedig llwybrau yn y dyfodol ac a ydynt yn cael eu cynnig ar gyfer cerdded/olwyno yn unig, neu ar gyfer cerdded/olwyno a beicio. Nid yw'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn nodi beth yw'r cynlluniau manwl i ddatblygu'r llwybrau hyn. 

Bydd cynlluniau manwl yn cael eu datblygu ac ymgynghorir arnynt wrth i gynlluniau gael eu cyflwyno i greu neu wella'r llwybrau. ​

 

Blaenoriaethu

Unwaith bydd y llwybrau ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol wedi'u cwblhau, byddant yn cael eu blaenoriaethu. Bydd blaenoriaethu yn ystyried y ffactorau canlynol: 

  • Blaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer cyflawni Beicffyrdd 
  • Potensial i ysgogi newid moddol o gar preifat i gerdded a beicio 
  • Agosrwydd at ardaloedd preswyl 

Mynediad i gyrchfannau gan gynnwys: 

  • Cyfnewidfa drafnidiaeth 
  • Addysg 
  • Manwerthu 
  • Atyniadau hamdden a twristiaeth Iechyd 
  • Canolfannau cymunedol, mannau addoli 
  • Effaith ar amddifadedd ac iechyd 
  • Data diogelwch neu gwrthdrawiadau

 

  ​

 

​​​​