Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Canolfan Ymchwil Caerdydd

Mae Canolfan Ymchwilio Caerdydd (CRC) yn ymdrechu i ddarparu gwasanaethau ymchwil, gwybodaeth ac ymgynghori cadarn ar gyfer Cyngor Dinas Caerdydd a'i sefydliadau partner.

Mae'n gwasanaethau'n cynnwys:

  • Dadansoddi a dehongli amrywiaeth eang o ddata demograffig ac economaidd-gymdeithasol gan gynnwys y Cyfrifiad a'r holl ffynonellau eraill o'r amgylchedd data ehangach er mwyn darparu sail tystiolaeth ar gyfer gweithredu polisïau a newid;
  • Casglu, dadansoddi a dehongli prif ddata arolygon;
  • Astudiaethau arbenigol ar amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys ffynonellau data cymdeithasol, economaidd a demograffig ar gyfer gweithredu polisïau a newid;
  • Projectau ymchwil ac ymgynghori meintiol ac ansoddol;
  • Rheoli Panel Dinasyddion Caerdydd;
  • Cyfleusterau Grŵp Ffocws;
  • Cyngor a chefnogaeth ar bob agwedd ar ymchwil gan gynnwys dylunio gwasanaethau mapio thematig a sgematig GIS.

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau ymchwil, gwybodaeth ac ymgynghori, cysylltwch â:

[email protected]

Hefyd, gallwch chi gael mynediad at yr Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd, ein Strategaeth ymgysylltu, Adroddiadau Ymchwil  ar ymarferion ymgynghori blaenorol neu gael rhagor o wybodaeth am ein Panel dinasyddion Caerdydd.

Er mwyn cael y newyddion diweddaraf am ddatblygiadau a manylion am ddigwyddiadau i ddod, cliciwch 'Hoffi' ar ein tudalen Facebook Sgwrs Caerdydd

Cysylltu â ni