Os ydych yn cysgu ar y stryd neu os nad oes gennych le i aros heno, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl.
- Dewisiadau Tai: 029 2057 0750 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm)
- Y tu allan i oriau: 029 2087 3141 (5pm i 9am)
- Gwasanaethau Allgymorth: 029 2057 0715 (7am i 7pm)
- Shelter Cymru: 08000 495 495 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 4pm)
Gall oerni ladd
Mae cysgu ar y stryd yn beryglus ar unrhyw adeg i bobl sydd ar eu pen eu hunain. Os nad oes dewis arall, cofiwch:
- Cysgwch mewn lleoliad gyda phobl eraill.
- Cysgwch ar flancedi neu sach cysgu, peidiwch byth â chysgu ar y llawr ei hun. Byddai mainc neu gardbord yn well.
- Bwytwch neu yfwch rywbeth twym cyn i chi fynd i gysgu. Bydd hyn yn eich helpu i gadw'n gynnes.
- Gorchuddiwch eich dwylo, eich traed a'ch pen yn dda.
- Peidiwch ag yfed alcohol cyn mynd i gysgu. Mae alcohol yn achosi dadhydradu, yn gostwng tymheredd y corff a gall achosi hypothermia a all fod yn angheuol.
Ble i fynd i gael cymorth
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau i ddarparu gwasanaethau rheng flaen sy'n ymdrin â materion fel llety brys, iechyd a chamddefnyddio sylweddau.
Allgymorth
Mae'r Gwasanaeth Allgymorth yn gweithredu 7 diwrnod yr wythnos rhwng 7am ac 7pm.
Byddwn yn eich cefnogi i:
- gwblhau cais digartrefedd,
- dod o hyd i lety addas,
- manteisio ar ofal iechyd a chyngor ar fudd-daliadau a thai, a'ch
- helpu i gael gafael ar gymorth arall os oes angen.
Gallwn hefyd helpu os oes gennych broblemau fel camddefnyddio sylweddau neu anawsterau iechyd meddwl.
Byddwn yn eich cyfeirio at ein canolfannau dydd a all roi hanfodion a lluniaeth cynnes i chi.
Os nad ydych chi o Gaerdydd, gallwn eich helpu chi i ailgysylltu â'ch cymuned leol.
Llety
Gallwn eich helpu i gael mynediad at ystod eang o lety dros dro, o hosteli i lety â chymorth sy'n briodol ar gyfer eich anghenion penodol.
Byddwn yn asesu eich anghenion trwy gais digartrefedd.
Gallwn hefyd eich helpu i ddod o hyd i lety parhaol mewn tai cymdeithasol a phreifat.
Allgymorth Byddin yr Iachawdwriaeth
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Byddin yr Iachawdwriaeth, sy'n gweithredu allgymorth 7 diwrnod yr wythnos rhwng 5pm a 9pm.
Gallant gynnig:
- mynediad at ofal a chymorth brys,
- bwyd a diodydd poeth, a
- mynediad at lety brys.
Tîm Ymyriadau Cysgu ar y Stryd The Wallich
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â The Wallich. Gan ddechrau am 7am bob bore, mae'r gwasanaeth hwn yn mynd i leoliadau hysbys i chwilio am bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd.
Mae'r tîm yn cynnig cymorth a chyngor yn ogystal â:
- brecwast,
- diodydd poeth,
- sachau cysgu,
- dillad cynnes,
- nwyddau ymolchi,
- cymorth i ddod o hyd i ddarpariaeth leol bellach yn ystod y dydd a'r nos,
- mynediad at wasanaethau arbenigol, gan gynnwys cyngor ar dai, llety â chymorth, cyngor ar fudd-daliadau, gofal iechyd ac atgyfeiriadau at ganolfannau camddefnyddio sylweddau.
Canolfan Ddydd Huggard
Mae Canolfan Huggard ar agor bob dydd ac yn cynnig cefnogaeth, cyngor ac arbenigedd datblygu i chi. Maent hefyd yn cynnig:
- prydau am ddim ac am gost isel,
- dillad am ddim,
- cyfleusterau golchi dillad, a
- chyfleusterau glendid personol.
Adeiladau Huggard
Hansen Street
Caerdydd
CF10 5JL
Gofal iechyd
Os ydych chi'n ddigartref neu'n aros mewn llety dros dro, gallwch gael mynediad at ystod o wasanaethau gofal iechyd trwy'r gwasanaeth Dewisiadau Tai. Mae gwasanaeth allgymorth ar gael hefyd.
Mae gwasanaethau'n cynnwys:
- Clinig gyda nyrs,
- Ymgynghoriadau ar gyfer diagnosis, triniaeth a thystysgrifau meddygol,
- Profion iechyd gan gynnwys pwysedd gwaed, asthma, diabetes, pwysau ac wrin,
- Gwasanaethau atal cenhedlu, gwasanaethau meddygol mamolaeth a gwasanaethau mân lawdriniaeth,
- Hyrwyddo iechyd rhywiol, brechiadau, hyrwyddo iechyd, a gofal iechyd ataliol.
Nid oes angen i chi wneud apwyntiad. Mae'r gwasanaethau ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm.
Tîm Amlddisgyblaethol
Mae'r Tîm Amlddisgyblaethol yn wasanaeth triniaeth ac ymyrraeth therapiwtig ar gyfer pobl sengl sy'n ddigartref. Mae'r tîm yn darparu amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys:
- Cymorth gyda chamddefnyddio sylweddau,
- Gweithwyr iechyd meddwl,
- Nyrs,
- Cwnsela,
- Therapyddion Galwedigaethol,
- Deietegwyr,
- Gweithwyr cymdeithasol,
- Gweithwyr arbenigol i fenywod, a
- Chymorth i fynd yn ôl i mewn i waith.
Gall y tîm hefyd ddarparu mynediad at asesiad, cyngor a chymorth yn y fan a'r lle.
Canolfan Asesu
32 Heol Ddwyreiniol y Bont-faen
CF11 9DU
Bugeiliaid Stryd
Mae bugeiliaid stryd yn wirfoddolwyr hyfforddedig o eglwysi lleol sy'n gofalu am bobl sydd allan ar stryd, yn gwrando arnyn nhw ac yn eu helpu.
Darperir y gwasanaeth bob nos Wener a nos Sadwrn rhwng 10pm a 4am yng nghanol y ddinas.
Darpariaeth Tywydd Oer a Phrotocol Argyfwng Tywydd Garw
Mewn tywydd oer a garw, mae darpariaeth ychwanegol ar gael i amddiffyn unigolion sy'n cysgu ar y stryd.
Mae ein Protocol Argyfwng Tywydd Garw yn sicrhau ein bod yn diogelu pobl sy'n agored i niwed ac sydd mewn perygl o niwed neu farwolaeth o ganlyniad i gysgu ar y stryd mewn tywydd garw.
Cysylltwch â'n tîm Allgymorth ar 029 2057 0715.
Gwasanaeth Ailgysylltu
Pan nad oes gennym ddyletswydd statudol a phan nad oes gan rywun gysylltiad lleol i gael gafael ar lety, cânt eu hatgyfeirio at y Gwasanaeth Ailgysylltu.
Partneriaeth rhwng y Cyngor a Byddin yr Iachawdwriaeth yw hon. Mae'r gwasanaeth hwn wedi'i gynllunio i gefnogi unigolion i ailgysylltu â'u bwrdeistref enedigol, neu i gael gafael ar lety arall drwy'r gwasanaeth.
