Gallwch helpu pobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd drwy gefnogi cynlluniau drwy gynnig cymorth ymarferol ac arbenigol i bobl yn y ddinas.
Gallwch wneud hyn drwy gyfrannu a wirfoddoli.
Gwirfoddoli - Gwasanaeth Teithwyr Sipsiwn, Tai ac Allgymorth
Gall gwirfoddoli wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.
Ein nod yw eich helpu i ddod o hyd i'ch cyfle gwirfoddoli delfrydol a gwireddu eich potensial.
Rydym ni'n awyddus i wirfoddolwyr ymuno â phob un o'r gwasanaethau canlynol:
- Tŷ Greenfarm (Hostel Teuluol)
- Tŷ Tresillian (Hostel Person Unigol)
- Gwasanaethau Teithwyr Sipsiwn
- Adams Court (llety dros dro i deuluoedd/pobl unigol)
- Y Gwasanaeth Allgymorth
Ar ôl cynefino byddwch yn cael trafodaeth am ba wasanaeth a fyddai fwyaf addas ar eich cyfer chi gyda'r Cydlynydd Gwirfoddolwyr.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â'n gwasanaeth fel gwirfoddolwr, cysylltwch â ni drwy e-bostio [email protected] neu ffonio 029 2087 3141.
Byddin yr Iachawdwriaeth - Project Bws
Mae'r Project Bws yn darparu gwasanaethau bum diwrnod o'r wythnos, 52 wythnos y flwyddyn, mewn bws deulawr sydd wedi'i addasu'n bwrpasol.
Gyda swyddfa ac ystafell feddygol, mae modd i bobl sy'n cysgu ar y stryd gael gafael ar wasanaethau gofal a chymorth brys. Mae'r gwasanaeth hefyd yn cynnig bwyd a diodydd poeth, ac yn gweithredu fel cysgod i bobl pan fo tywydd garw.
Dysgwch sut gallwch chi gefnogi gwaith Byddin yr Iachawdwriaeth.
Tîm Ymyriadau Cysgu ar y Stryd The Wallich
Mae'r tîm yn cynnig cymorth, cefnogaeth a chyngor i bobl sy'n cysgu ar y stryd neu sy'n byw mewn cartref sy'n eu gwneud yn agored i niwed yng Nghaerdydd. Mae staff profiadol yn cefnogi cleientiaid drwy gynnig y cymorth canlynol:
- brecwast,
- diodydd poeth,
- sachau cysgu,
- dillad cynnes,
- deunyddiau ymolchi, a
- helpu i ddod o hyd i ddarpariaeth leol bellach drwy gydol y dydd a nos.
Mae'r Tîm hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o gyngor ac yn galluogi pobl i gael gafael ar y gwasanaethau mwyaf priodol, perthnasol ac arbenigol gan gynnwys cyngor ar dai, atgyfeiriadau i lety â chymorth, cyngor ar fudd-daliadau, atgyfeiriadau i bob math o ofal iechyd ac atgyfeiriadau i ganolfannau camddefnyddio sylweddau.
Dysgwch sut gallwch chi gefnogi Tîm The Wallich.
Huggard - Canolfan Ddydd Huggard
Mae'r ganolfan hon yng nghanol y ddinas ar agor bob dydd o'r flwyddyn yn cynnig cymorth, cyngor a datblygiad arbenigol.
Mae Huggard yn cynnig:
- prydau am ddim a chost isel,
- dillad am ddim,
- cyfleusterau golchi dillad, a
- hylendid personol.
Mae'r ganolfan yn bodoli i roi cymorth hanfodol i bobl ddigartref ac yn rhoi'r cyfle i ymgysylltu â nhw mewn amgylchedd cyfeillgar a chynnes, er mwyn eu helpu i ddod o hyd i lety parhaol.
Dysgwch fwy am wasanaethau Huggard a sut y gallwch chi helpu.
CAERedigrwydd
Ymgyrch codi arian yw CAERedigrwydd sy'n cyfuno elusennau digartrefedd sydd eisoes wedi'u sefydlu ledled Caerdydd. Mae'n cynnig cronfa amgen i helpu'r elusennau digartrefedd dan sylw i gefnogi'r bobl y maen nhw'n gweithio gyda nhw drwy grantiau bach.
Gallwch gyfrannu unrhyw adeg o'r dydd neu nos drwy decstio DIFF20 ac yna'r swm yr ydych am ei gyfrannu i 70070.
Mae'n bosib y codir tâl arnoch am eich neges. Cyfeiriwch at gyfraddau safonol gweithredwr eich rhwydwaith.
Caiff eich cyfraniad ei roi i unigolion i gynnig y gefnogaeth briodol ar yr adeg briodol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan FOR Cardiff.
