Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Safonau tai

Mae dyletswyddau landlordiaid yn cynnwys cynnal a chadw wyneb allanol ac elfennau strwythurol yr eiddo yn ogystal â sicrhau bod y canlynol yn ddiogel ac yn effeithlon:

Cyflenwadau dŵr, nwy a thrydan;

  • systemau hylendid personol, glanweithdra a draenio;
  • oergelloedd a rhewgelloedd (os y'u darperir);
  • systemau awyru;
  • system wresogi'r eiddo;
  • y system gwresogi dŵr.

    Gallwch weld gwybodaeth fanylach am gyfrifoldebau landlordiaidDolen yn agor mewn ffenestr newydd ar wefan y llywodraeth ganolog.

    Tystysgrifau Perfformiad Ynni

    Mae'r Dystysgrif Perfformiad Ynni yn rhoi gwybodaeth i ddarpar denantiaid am effeithlonrwydd yr eiddo o ran ynni.

    Ceir rhagor o wybodaeth am Dystysgrifau Perfformiad YnniDolen yn agor mewn ffenestr newydd ar wefan y llywodraeth ganolog.

    System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai

    Y System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai (HHSRS) yw dull y llywodraeth o werthuso peryglon posibl cyflwr tai o ran iechyd.

    Asesir 29 o gategorïau o beryglon tai dan y system hon. Mae gan bob perygl bwysoliad a fydd yn helpu i bennu p'un a oes gan yr eiddo beryglon categori 1 (peryglon difrifol) neu gategori 2 (peryglon eraill).

    Mae dyletswydd gyffredinol ar awdurdodau lleol i sicrhau bod tai yn cael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr da ac nad yw preswylwyr yn wynebu risg oherwydd peryglon iechyd a diogelwch yn eu heiddo.

    Ar ôl asesu eiddo byddwn yn cymryd camau priodol i sicrhau bod landlordiaid yn mynd i'r afael ag unrhyw bryderon a nodwyd.

    Gallwch lawrlwytho'r Canllawiau HHSRS i landloridiaid a gweithwyr proffesiynol ym maes taiDolen yn agor mewn ffenestr newydd o wefan y llywodraeth ganolog.