At ddibenion Tai Amlfeddiannaeth Dosbarth C4 a Sui Generis, mae gan Dŷ Amlfeddiannaeth yr un ystyr â'r hyn sydd yn adran 254 Deddf Tai 2004 ac nid yw’n cynnwys bloc o fflatiau wedi’i newid y mae adran 257 Deddf Tai 2004 yn berthnasol iddo.
I eiddo gael ei ddiffinio fel Tŷ Amlfeddiannaeth, rhaid iddo fod yn brif gartref i rywun. Ystyrir mai’r eiddo nad yw myfyrwyr, mudwyr a cheiswyr lloches yn byw ynddo trwy gydol y flwyddyn yw eu prif gartref a dylent gael eu cynnwys wrth gyfrif nifer o feddianwyr. Ni ddylid cynnwys gwesteion sy'n ymweld am gyfnod byr wrth gyfrif nifer y meddianwyr.
Gwelwch
adran 254 Deddf Tai 2004Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd.
Yn 2016, bu tri newid cynllunio ynghylch Tai Amlfeddiannaeth. Yn gyntaf, creodd Llywodraeth Cymru Ddosbarth Defnydd newydd o'r enw 'C4' (sy'n ddosbarthiad o fathau adeiladu) am Dai Amlfeddiannaeth llai. Yn ail, mabwysiadodd y cyngor Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd sy’n cyflwyno polisi cynllunio newydd (Polisi H5) sy'n rheoli isrannu neu drosi eiddo preswyl. Yn olaf, lluniodd y Cyngor CCA i roi canllawiau ychwanegol ar bolisi H5.
Newid i Ddosbarth Defnydd
Ar 25 Chwefror 2016, creodd Llywodraeth Cymru ddosbarth defnydd newydd (C4) ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth llai, a oedd gynt yn Dai Preswyl (C3). Mae Tai Amlfeddiannaeth mawr ar gyfer mwy na 7 o bobl yn parhau i fod yn Sui Generis, fel y buont gynt. Canlyniad hyn yw bod angen cael caniatâd cynllunio ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth newydd gyda llai na 7 o bobl, tra nad oedd angen o’r blaen.
Cynllun Datblygu Lleol
Mae Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Caerdydd (a fabwysiadwyd ym mis Ionawr 2016) yn cynnwys polisi sy’n nodi yr ystyrir Tai Amlfeddiannaeth, ynghyd â phethau eraill, yn ôl ‘effaith gronnol andwyol y fath drosi [neu ddiffyg hynny] ar yr amwynder a/neu gymeriad yr ardal’. Mae hyn yn golygu pan fo'r cyngor yn derbyn cais cynllunio ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth llai (C4) neu fwy (Sui Generis), bydd yn ystyried nifer y Tai Amlfeddiannaeth yn yr ardal leol, ymhlith materion eraill. Y prif reswm dros wneud hyn yw trio cynnal cydbwysedd mewn cymunedau, a pheidio â galluogi strydoedd cyfan i weithredu fel Tai Amlfeddiannaeth.
Canllawiau Cynllunio Atodol
I gyd-fynd â’r polisi, mae’r Cyngor wedi cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Ategol (CCA) ynghylch cynllunio Tai Amlfeddiannaeth perthnasol. Bydd hyn yn ymhelaethu ar y polisi uchod ac yn rhoi canllaw ar y materion a ystyrir wrth drafod ceisiadau cynllunio ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth. Cymeradwywyd y ddogfen hon gan y Cyngor ar 20 Hydref 2016 a gellir ei gweld trwy’r tab isod.
Wrth ystyried cais cynllunio am Dŷ Amlfeddiannaeth newydd, bydd y Cyngor yn ystyried amrywiaeth o ffactorau (gweler Canllawiau Cynllunio Atodol). Ymhlith yr ystyriaethau hyn bydd nifer o Dai Amlfeddiannaeth cyfredol sy’n amgylchynu un newydd arfaethedig. Bydd y Cyngor yn gosod radiws o 50m o gwmpas yr eiddo, ac o fewn y radiws hwnnw, caiff nifer y Tai Amlfeddiannaeth cyfredol ei asesu. Os mai Tai Amlfeddiannaeth yw mwy na 20% o aneddiadau yn Cathays a Phlasnewydd neu fwy na 10% yn rhywle arall yn y ddinas, ystyrir bod gormod ohonynt.
Gall ymgeiswyr wneud cais am gyngor cyn cyflwyno cais i ddeall faint o Dai Amlfeddiannaeth sy’n amgylchynu un newydd (Gweler yr adran ‘Sut i Wneud Cais' isod) fel arall,
gellir gweld gwybodaeth am leoliad Tai Amlfeddiannaeth ar-leinDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd. Mae’n bosibl na fydd y data’n benodol a chanllaw yn unig yw.
Rhaid ceisio caniatâd cynllunio o hyd, hyd yn oed pan rydych yn credu nad oes llawer o Dai Amlfeddiannaeth yn amgylchynu un newydd arfaethedig.
Rydym wedi cyhoeddi
gwybodaeth am sut i wneud cais am ganiatâd cynllunio.
Am gyngor cysylltwch â ni trwy e-bostio
rheolidatblygu@caerdydd.gov.uk neu drwy ffonio 02922 330 800.