Fel myfyriwr, gallwch gofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad cartref a'ch cyfeiriad yn ystod y tymor. Gallai hyn roi cyfle i chi gymryd rhan mewn gwahanol etholiadau.
Bydd angen i chi ddewis 1 cyfeiriad, a dim ond yn yr ardal honno y cewch fwrw pleidlais wrth bleidleisio yn:
- Etholiadau Seneddol y DU
- Etholiadau Senedd Cymru
Refferenda y DU
Mae'n drosedd pleidleisio mewn mwy nag 1 cyfeiriad yn yr etholiadau hyn.
Ar gyfer etholiadau eraill, cewch bleidleisio yn y ddau gyfeiriad os ydynt mewn ardaloedd cyngor gwahanol.
Gallwch ddewis pleidleisio yn y naill ardal neu'r llall, neu yn y ddwy ohonynt, wrth bleidleisio mewn:
- Etholiadau cyngor lleol yng Nghymru
Etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Myfyrwyr rhyngwladol
Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol sy'n astudio yng Nghymru, gallwch gofrestru a phleidleisio yn:
- Etholiadau Senedd Cymru
- Etholiadau llywodraeth leol
Dysgwch sut i gofrestru i bleidleisio.
