Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi'u cofrestru i bleidleisio. Mae'r gofrestr yn cael ei diweddaru'n fisol.
Mwy o wybodaeth am y gofrestr etholiadol.
Y gofrestr etholiadol lawn
Mae'r gofrestr etholiadol lawn yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi'u cofrestru i bleidleisio. Ni ellir ei gwerthu i unrhyw un. Byddai eich manylion ond yn cael eu defnyddio at ddibenion etholiadol neu'n cael eu rhoi i eraill er mwyn:
- atal a chanfod troseddau
- galw arnoch i wasanaethu ar reithgor
- gwirio ceisiadau am fenthyciadau neu gredyd
Ni roddir y gofrestr etholiadol lawn i adrannau eraill y Cyngor. Os ydych chi wedi symud, bydd angen i chi gysylltu ag adrannau eraill y cyngor i roi gwybod iddyn nhw.
Pwy all gael mynediad i'r gofrestr lawn
Yn ôl y gyfraith, dim ond rhai pobl a sefydliadau all gael copi o'r gofrestr lawn, a dim ond am resymau penodol y gallant ei defnyddio. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Pleidiau gwleidyddol cofrestredig, ymgeiswyr ac asiantau etholiadol
- Aelodau Etholedig (y Senedd, Senedd y DU a'r Cyngor) Cynghorau cymuned
- Asiantaethau heddlu a throseddu
- Asiantaethau gwirio credyd
- Cyrff swyddogol, fel y Comisiwn Etholiadol, y Comisiwn Ffiniau, a'r gwasanaeth rheithgor.
Caniateir i unrhyw un edrych ar y gofrestr lawn o dan oruchwyliaeth, ond ni chaniateir iddynt wneud copi ohoni. Cyhoeddir y gofrestr etholiadol unwaith y flwyddyn. Pan gaiff ei chyhoeddi caiff y gofrestr flaenorol ei rhewi a chopi rhwymedig ei anfon i'r archif. Caiff rhain eu stori ar ein rhan gan Archifau Morgannwg.
Gweld y Polisi Mynediad Archifau Morgannwg (56kb DOC).
Gallwch ymweld ag Archifau Morgannwg yn:
Clos Parc Morgannwg
Lecwydd
Caerdydd
CF11 8AW
I gael rhagor o wybodaeth am weld y gofrestr etholiadol:
- darllenwch Bolisi Preifatrwydd y Gwasanaethau Etholiadol, neu
- cysylltwch gan ddefnyddio ein ffurflen gyswllt.
Y gofrestr agored
Mae'r gofrestr agored yn fersiwn o'r gofrestr etholiadol y gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu.
Gallwch optio allan o'r gofrestr agored pan fyddwch chi'n cofrestru i bleidleisio.
Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ac yn dymuno tynnu eich manylion oddi ar y gofrestr agored, cysylltwch â ni.
Y canfasiad blynyddol
Ar hyn o bryd rydym yn cysylltu â phob cartref i wirio a yw'r manylion ar y gofrestr etholiadol yn gywir. Dyma'r canfasiad blynyddol.
Rydym yn gwneud hyn er mwyn gallu:
- gweld pwy sy'n gymwys i bleidleisio, ac
- anfon ffurflenni cofrestru at unrhyw un sy'n gymwys i bleidleisio.
Byddwn yn cysylltu â chi ar e-bost neu drwy'r post.
Dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, mae'n rhaid i ni gadw'r gofrestr etholiadol yn gyflawn ac yn gywir. Byddwn yn cyhoeddi'r gofrestr etholiadol wedi'i diweddaru ar 1 Rhagfyr 2026.
Pan fyddwch chi'n derbyn eich llythyr neu e-bost, dywedwch wrthym pwy sy'n byw yn eich cyfeiriad.
Pryd i ymateb i gyfathrebu canfasio
Hyd yn oed os nad oes unrhyw beth wedi newid, mae'n rhaid i chi ymateb os ydych chi'n derbyn:
- ffurflen gohebiaeth ganfasio B (GGB) binc, neu
- ffurflen ganfasio (FfG) felen.
Mae'n ofyniad cyfreithiol i ymateb. Os na wnewch chi hynny, gallech gael dirwy hyd at £1,000.
Os ydych chi'n derbyn ffurflen gohebiaeth ganfasio A (GGA), dim ond os oes unrhyw newidiadau i'ch cartref y bydd angen i chi ymateb.
Rhaid i chi ymateb gyda ffurflen wedi'i chwblhau erbyn 19 Tachwedd 2026.
Sut i ymateb
Mae'n drosedd rhoi gwybodaeth ffug i ni am bwy sy'n byw yn eich cyfeiriad. Gallech wynebu dirwy neu garchar o ganlyniad.
Gallwch ymateb:
Ar-lein
Ewch i wefan Ymateb Cartref i ymateb ar-lein.
Bydd angen i chi ddefnyddio'r codau diogelwch ar eich ffurflen i ddiweddaru eich manylion.
Dros y ffôn
Ffoniwch y llinell Cadarnhau Cartref ar 0800 884 0701.
Bydd angen i chi ddefnyddio'r codau diogelwch ar eich ffurflen i ddiweddaru eich manylion.
Ar e-bost
Anfonwch eich ffurflenni wedi'u cwblhau i: [email protected].
Trwy'r post
Anfonwch eich ffurflenni wedi'u cwblhau i:
Gwasanaethau Etholiadol
Neuadd y Sir, Ystafell 263
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Darparu gwybodaeth fel person cyfrifol sengl
Os yw preswylwyr yn rhannu eiddo ond ddim yn ffurfio un aelwyd, bydd angen i un person cyfrifol sengl gwblhau'r canfasio blynyddol ar gyfer pawb sy'n byw yno.
Gall hyn fod yn unrhyw un sy'n meddu ar neu â mynediad cyfreithlon at wybodaeth am bob person sy'n byw mewn eiddo.
Gallai eiddo lle nad yw preswylwyr yn ffurfio un aelwyd fod yn:
- neuaddau prifysgol,
- cartrefi gofal preswyl,
- hosteli, a
- tai amlfeddiannaeth.
Os ydych chi'n berson cyfrifol sengl
Fel y person cyfrifol sengl ar gyfer yr eiddo, mae'n rhaid i chi roi gwybodaeth i ni am y bobl sy'n byw yno.
Mae hyn yn cael ei ganiatau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Mae gennym hefyd hawl statudol i ofyn am wybodaeth gennych chi o dan Reoliad 23 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001.
Mae'n ofyniad cyfreithiol i ymateb. Os na wnewch chi hynny, gallech gael dirwy hyd at £1,000.
Fel arfer, byddwn yn cysylltu â chi rhwng mis Gorffennaf a mis Tachwedd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am breswylwyr.
Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi ar adegau eraill. Er enghraifft, cyn etholiad.
Ar ôl i chi ymateb i ni, gallwn gysylltu â phleidleiswyr cymwys yn yr eiddo i wneud yn siŵr eu bod yn gwybod sut i gofrestru i bleidleisio.
Rhowch wybod i ni pryd bynnag y bydd pobl wedi symud i mewn neu allan o'r eiddo.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Ar ôl i chi ymateb i'n gohebiaeth ganfasio, byddwn yn anfon ffurflen cofrestru i bleidleisio at unrhyw breswylwyr newydd neu newydd ddod yn gymwys yn eich cartref.
I gofrestru i bleidleisio, gallwch:
- lenwi'r ffurflen a'i dychwelyd atom ni, neu
- cofrestru i bleidleisio ar wefan GOV.UK.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch â ni.
E-bost: [email protected]
Ffôn: 029 2087 2088
Post:
Gwasanaethau Etholiadol
Ystafell 263, Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
