Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cynllun cymorth tanwydd gwresogi oddi ar y grid

Os ydych chi'n gymwys am y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor am eich bod ar incwm isel, a'ch bod yn dibynnu ar olew gwresogi neu LPG i wresogi eich cartref, rydych yn gymwys i gael taliad untro o £200.   

Beth sy'n rhaid i mi ei wneud?

Os ydych eisoes yn derbyn y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor ac nad yw'ch cartref wedi'i gysylltu â'r grid nwy, byddwn yn cysylltu â chi ac yn eich gwahodd i wneud cais. Byddwn yn gofyn i chi gadarnhau pa fath o danwydd gwresogi rydych chi'n ei ddefnyddio trwy roi bil i ni sydd hyd at 12 mis oed a darparu manylion banc. 

Faint o amser sydd gen i i wneud cais?

Rhaid eich bod yn derbyn y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor neu wedi gwneud cais llwyddiannus am y cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor​, rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Gorffennaf 2026. Dylech wedyn wneud cais am y cymorth olew gwresogi a LPG cyn gynted â phosibl. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Medi 2026.

Gwneud cais

Cyn gwneud cais, gwnewch yn siŵr bod gennych gopi o'ch anfoneb neu dderbynneb olew gwresogi o'r 12 mis diwethaf a chopi o ddatganiad banc sy'n dangos eich manylion banc yn glir. ​

Gwneud cais am y cynllun oddi ar y grid