Rydym wedi partneru â Spokesafe a Bikedok i ddarparu rhwydwaith o loceri beiciau diogel mewn sawl lleoliad ar draws canol y ddinas.
Gallwch archebu loceri fesul diwrnod, wythnos neu fis.
Mae'r apiau'n dangos argaeledd amser real i chi ac yn gadael i chi archebu a chael mynediad at loceri 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Mae pob locer:
- ar gael i'w gadw ymlaen llaw,
- wedi'i adeiladu ar gyfer pob math o feic,
- wedi'i amgáu'n llawn ac yn ddiogel,
- yn dod gyda chymorth 24 awr.
Cost
| Hyd | Cost |
|---|---|
| 24 awr | £1.50 |
| 1 wythnos | £7.50 |
| 1 mis | £20 |
Lleoliadau Spokesafe
- Castell Caerdydd
- Stryd Tredegar
- Ffordd Churchill
- Heol y Porth
- Canolfan Dewi Sant, Heol Charles
- Heol y Frenhines
- Sgwâr Canolog
Lleoliadau Bikedok
- Heol y Frenhines (Gorllewin)
- Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
- Plas y Parc
- Hills Street
- Y Llyfrgell Ganolog
- Heol Eglwys Fair
