Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd

Rydym yn cefnogi pobl ifanc 11 i 25 oed â'u datblygiad cymdeithasol, addysgol ac emosiynol.  Rydym yn cynnig mannau cymunedol diogel lle gall pobl ifanc:

  • gymryd rhan mewn gweithgareddau,  
  • manteisio ar ddysgu anffurfiol, 
  • dod o hyd i wybodaeth ac arweiniad ar ystod eang o bynciau,  
  • siarad am faterion sy'n effeithio arnynt, a  
  • cael cefnogaeth gan Weithwyr Ieuenctid.

Rydym yn cefnogi pobl ifanc mewn grwpiau neu ar sail un i un, gan ddefnyddio dulliau hyblyg sy'n diwallu eu hanghenion.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydym yn ei gynnig ar wefan Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd. 

Canolfannau ieuenctid a gwasanaethau ar-lein

Rydym yn rhedeg canolfannau ieuenctid a darpariaethau ieuenctid yn ystod nosweithiau, penwythnosau a gwyliau ysgol.  

Gallwch ddod o hyd i'ch canolfan ieuenctid leol ar wefan Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd.

Gwasanaeth ieuenctid ar-lein

Gallwch hefyd ymuno â Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd ar-lein.  Rydym yn cynnal clybiau ieuenctid ar-lein ar Discord ar gyfer pobl ifanc 13 oed a hŷn. Mae'r rhain yn fannau diogel lle gall pobl ifanc fod yn greadigol, cwrdd ag eraill a chael gwybod am gyfleoedd newydd. 

Mae tri grŵp ar-lein:

  • Siaradwyr Cymraeg 
  • Pobl ifanc 13 i 17 oed 
  • Pobl ifanc 16 i 25 oed

Cofrestrwch i ymuno â Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd ar-lein.

Cymryd rhan

Gallwch ddod yn aelod o Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd os ydych yn berson ifanc rhwng 11 a 25 oed ac yn dymuno cymryd rhan mewn unrhyw un o'r gwasanaethau rydym yn eu cynnig gan ganolfannau ieuenctid.

Gallwch gwblhau'r ffurflen ar-lein i ddod yn aelod o'r Gwasanaeth Ieuenctid​. ​