Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gorchmynion rheoli cŵn

Fel awdurdod lleol gallwn gyflwyno Gorchmynion Rheoli Cŵn (GRhC) yng Nghaerdydd. Cyflwynir GRhC i orfodi pobl i fod yn berchenogion cyfrifol.

Golyga hyn, mewn ardaloedd cyhoeddus lle ceir GRhC, efallai y bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cadw'r ci ar dennyn
  • rhoi'r ci ar dennyn os bydd swyddog yr heddlu, swyddog cymorth cymunedol yr heddlu neu swyddog iechyd yr amgylchedd yn dweud wrthych i wneud hynny
  • atal y ci rhag mynd i leoedd penodol - fel ffermdir neu rannau o barc
  • cyfyngu ar nifer y cŵn sydd gennych chi (mae hyn yn berthnasol i gerddwyr cŵn proffesiynol hefyd)
  • glanhau ar ôl y ci

Ceir rhagor o wybodaeth am reoli eich ci ar wefan GOV.UK.

Gweld Rheolau Cŵn i helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cysylltiad â chŵn.