Mae'r Arglwydd Faer wedi dewis Hosbis y Ddinas fel ei elusen ar gyfer y flwyddyn. Mae'r elusen yng Nghaerdydd yn darparu gofal lliniarol arbenigol a chymorth i gleifion â salwch sy'n cyfyngu ar fywyd a'u teuluoedd, gan helpu pobl i fyw'n dda cyhyd â phosib.
Dros y flwyddyn sydd ar ddod, bydd yr Arglwydd Faer yn cefnogi ymgyrchoedd codi arian ar gyfer Hosbis y Ddinas trwy ystod o ddigwyddiadau ledled y ddinas.
Wrth siarad yn ei seremoni urddo, dywedodd yr Arglwydd Faer newydd: "Mae'n anrhydedd enfawr gwasanaethu fel Arglwydd Faer Caerdydd, dinas sydd wedi bod yn gartref i mi ers dros 60 mlynedd bellach. Mae'n foment falch i mi ac i fy nheulu, ac rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â thrigolion o bob cwr o'r ddinas yn y flwyddyn sydd ar ddod, a chefnogi fy elusen ddewisol, Hosbis y Ddinas.
"Mae'r gwaith y mae Hosbis y Ddinas yn ei wneud i gefnogi cleifion a theuluoedd ar yr adegau anoddaf yn eu bywydau yn wirioneddol amhrisiadwy, ac rwy'n gobeithio y gallwn gynyddu ymwybyddiaeth a chodi arian hanfodol i gefnogi eu gwasanaethau."
Dywedodd Prif Weithredwr Hosbis y Ddinas, Dr Liz Booyse: "Rydym wrth ein bodd bod yr Arglwydd Faer, y Cynghorydd Michael Michael wedi dewis Hosbis y Ddinas fel yr elusen y mae'n dymuno ei chefnogi. Fel hosbis leol Caerdydd, rydym yn gofalu am gleifion a'u teuluoedd ledled ein dinas trwy rai o'r amseroedd anoddaf, ac rydym yn edrych ymlaen at glywed am ei gynlluniau i helpu i gynyddu ymwybyddiaeth a chodi arian hanfodol i gefnogi ein gwaith. Dymunwn bob llwyddiant i'r Cynghorydd Michael yn ei flwyddyn yn y swydd."
Byddwn yn ddiolchgar iawn o dderbyn rhoddion.
Rhaid i sieciau gael eu gwneud yn daladwy i Elusen Arglwydd Faer Cyngor Caerdydd 2026/27 a'u hanfon at:
Y Swyddfa Brotocol
Y Plasty
Heol Richmond
Caerdydd
CF24 3UN
Os hoffech drefnu digwyddiad codi arian ar gyfer Elusen yr Arglwydd Faer, neu os oes gennych wobrau ocsiwn neu raffl i'w rhoi, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 029 2087 1543.
