Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cynlluniau teithio ysgol

Anogir pob ysgol i ddatblygu a rhoi cynlluniau teithio ysgol ar waith sydd yn anelu i:

  • Leihau tagfeydd traffig ger ysgolion.
  • Cynyddu diogelwch personol disgyblion a rhieni ar eu ffordd i'r ysgol ac wrth adael yr ysgol.
  • Cynnig dewis dull amgen o deithio i blant a rhieni.
  • Lleihau'r perygl o dderbyn anaf mewn gwrthdrawiad.
  • Gwella iechyd a ffitrwydd.
  • Ateb anghenion disgyblion ysgol drwy nodi'r problemau a wynebir ganddynt ar eu ffordd i'r ysgol.
  • Datblygu annibyniaeth a hyder disgyblion.
  • Lleihau cylch dieflig teithio i'r ysgol (h.y. Mae rhieni ag ofn perygl traffig - rhieni yn gyrru eu plant/disgyblion i'r ysgol - traffig yn cynyddu - rhieni ag ofn perygl traffig).

Datblygu Cynllun Teithio Ysgol

Does dim angen i ddatblygu CTY fod yn broses hir a chymhleth, oherwydd bydd cynnwys y cynllun yn amrywio yn ôl anghenion penodol ysgolion unigol. Yn ddelfrydol dylai'r CTY fod yn ddogfen fyw, h.y. un fydd yn amodol ar newid a gwelliannau.

Gallai cynllun nodweddiadol gynnwys y penawdau canlynol:

  • Cyflwyniad - Beth yw CTY a pham fod ei angen ar eich ysgol.
  • Disgrifiad byr o'r ysgol - Bydd hyn yn cynnwys nifer y disgyblion, lleoliad yr ysgol, dalgylch ac unrhyw ffactorau perthnasol all effeithio ar deithio i'r ysgol.
  • Prawf o ymgynghori - Bydd hyn yn ymwneud ag arolygon teithio ysgol a neu holiaduron.
  • Mesurau a gynigir gydag amcanion a thargedau - Gallai'r rhain gynnwys mesurau arafu traffig, cyfleusterau croesi mwy diogel, llwybrau beicio a mesurau adferol eraill.
  • Rhaglen waith - Pryd fydd yr ysgol yn cymryd camau a pha gamau sydd eu hangen gan yr awdurdod lleol.
  • Cynlluniau monitro ac adolygu - Sut caiff y newidiadau eu monitro a sut yr adroddir arnynt.

    Os hoffech wybodaeth ychwanegol am gynlluniau teithio ysgol cysylltwch â'r tîm Diogelwch ar y Ffyrdd a Hyfforddiant neu ffoniwch 029 2078 8521.

    Cysylltu â ni