Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Chwiliad gan yr awdurdod i statws priffordd

Gallwn gyflwyno'r wybodaeth ganlynol:

  • Priffordd Cyhoeddus Mabwysiedig
  • Priffordd Cyhoeddus Mabwysiedig a gynhelir gan Fenter Ariannu Preifat (MAP)
  • Cytundeb 278
  • Cytundeb 38
  • Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTC)
  • Gorchmynion Addasu Mapiau Diffiniol

Sut mae gwneud cais?

Gallwch wneud cais ar-lein am Chwiliadau Priffyrdd . Bydd angen i chi gofrestru gyntaf ac yna dilyn y ddolen "Chwiliadau Priffyrdd" o'r gwymplen.

Mae angen anfon pob ymholiad ynghylch yr eiddo'n bod yn destun unrhyw dir priffordd neu dir cyngor gwirioneddol neu honedig at y Tîm Ystadau Strategol ar [email protected] gan eu bod nhw'n gweithredu cronfa ddata gwasanaeth benodol sydd â manylion am berchnogaeth tir y cyngor.

I gael rhagor o wybodaeth am gynlluniau gwella Traffig a Thrafnidiaeth, cysylltwch â'r tîm Projectau Trafnidiaeth .

Faint fydd hyn yn costio?

Bydd yn costio £146.57 fesul Chwiliad Priffordd (heb TAW). Does dim modd ad-dalu'r ffi. Mae'n rhaid talu â cherdyn Debyd neu Gredyd cyn bod modd prosesu'r cais.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais, bydd angen ei asesu i sicrhau bod yr holl fanylion angenrheidiol wedi'u nodi. Unwaith y mae'r Chwiliad Priffyrdd wedi'i gyflawni, byddwch yn derbyn e-bost gyda'r dogfennau a llythyr cyflwyno.