Mae ein rhaglen Camau Iau yn cynnig cyfleoedd dysgu a datblygu gwych i blant Ysgol Gynradd CA2 mewn amrywiaeth o bynciau cyffrous.
Nod y rhaglen yw annog, ymgysylltu a chefnogi disgyblion wrth iddynt ddysgu a datblygu sgiliau a phrofiadau newydd trwy gydol y cwrs. Cynhelir sesiynau un diwrnod yr wythnos mewn sawl lleoliad gwahanol ar draws y ddinas trwy gydol y flwyddyn ysgol.
Gofal anifeiliaid
Gwybodaeth am y Cwrs Gofal Anifeiliaid.
Gall anifeiliaid gynnig llawer iawn o gefnogaeth emosiynol. Defnyddir y ceffylau yn Ysgol Farchogaeth Caerdydd mewn lleoliad therapiwtig i helpu plant i ymdopi â phrofiadau emosiynol heriol.
Bydd y plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel paratoi, bwydo ac arwain ceffyl wrth gael eu goruchwylio gan weithiwr proffesiynol. Nod y rhaglen hon yw helpu plant i ddatblygu sgiliau fel rheolaeth emosiynol, hunanhyder a chyfrifoldeb.
Mae'r rhaglen Gofal Anifeiliaid o fudd i ystod eang o blant, gan gynnwys y rhai sydd â heriau ymddygiadol, problemau iechyd meddwl ac anawsterau dysgu. Mae'n helpu i wella lles meddyliol a chorfforol a sgiliau cymdeithasol. Mae hefyd o fudd i unrhyw un sy'n chwilio am ffordd newydd o wella hyder a hunanymwybyddiaeth, neu sy'n dyheu am seibiant i ymlacio o'r drefn arferol.
Buddion a chanlyniadau'r cwrs
- Dysgu sut i ofalu am geffylau a merlod.
- Dysgu technegau rheoli ceffylau sylfaenol.
- Cynnal archwiliadau dyddiol o geffylau i chwilio am gyflyrau iechyd.
- Meithrin cyfeillgarwch.
- Meithrin partneriaeth ymddiriedus rhwng ceffylau a phobl.
- Datblygu gwaith tîm a sgiliau arwain.
- Cyfleoedd i farchogaeth.
Ble caiff y cwrs ei gynnal?
Ysgol Farchogaeth Caerdydd
Caeau Pontcanna
Fields Park Road
Pontcanna
CF5 2AX
Cysylltu â ni
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â ni.
029 2233 0270
