Gallwn ni eich rhoi mewn cysylltiad ag elusennau a sefydliadau yn eich ardal i'ch galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau a dod i adnabod pobl newydd.
- Celf a Chreff
- Chwaraeon megis bowlio, snwcer, tennis bwrdd
- Corau a sesiynau canu
- Teithiau undydd
- Clybiau Bridge
- Dawnsio
- Dosbarthiadau ymarfer corff
- Clybiau cyfeillgarwch a chymdeithasol
- Garddio
- Clybiau Llyfrau
- Grwpiau diddordeb arbennig megis casglu stampiau, Scrabble, Ffrangeg
- Ffotograffiaeth
- Cwmnïau Drama Amatur
Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael drwy Age Connects Gweld sefydliadau ar Dewis.cymru
Cyfeillio
Mae elusennau a sefydliadau yn darparu gwasanaeth cyfeillio neu wasanaethau tebyg a all helpu i leihau unigedd neu arwahanu cymdeithasol ymhlith unigolion. Mae rhai gwasanaethau yn canolbwyntio ar grwpiau penodol gan gynnwys pobl sy'n ddioddef o glefyd Alzheimer, dementia neu eu gofalwyr, pobl sy'n dioddef effaith colli eu golwg a/neu glyw, cyn-aelodau'r lluoedd arfog a'u teuluoedd ac aelodau'r gymuned pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.
Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael drwy Age Connects
Gweld sefydliadau ar Dewis.cymru
Trafnidiaeth
Mae Trafnidiaeth Gymunedol VEST yn helpu pobl sydd ddim yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus arferol oherwydd eu hoedran, anabledd neu am eu bod wedi'u harwahanu. Mae eu bysus sy'n cynnwys cyfarpar pwrpasol yn cynnig gwasanaeth o ddrws i ddrws. P'un ai a ydych eisiau mynd i siopa neu gwrdd â ffrindiau neu eich bod angen mynd i'r feddygfa, gallant helpu i fynd â chi yno.
Efallai y bydd elusennau a sefydliadau eraill yn gallu eich helpu â thrafnidiaeth os ydych yn ei chael yn anos mynd allan.
Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael drwy Age Connects
Gweld sefydliadau ar Dewis.cymru
Rheoli Prydau
Mae Clybiau Cinio yn dod â phobl hŷn at ei gilydd i fwynhau pryd maethlon a chymdeithasu â ffrindiau.
Mae rhagor o wybodaeth am glybiau sy'n gweithredu yn eich ardal leol ar gael drwy Age Connects
Mae'r holl archfarchnadoedd mawrion yn cynnig gwasanaeth cludo nwyddau i'r cartref. Efallai y bydd siopau lleol sy'n gwerthu llysiau, ffrwythau, pysgod a chig yn gallu cludo nwyddau at garreg eich drws. Gall cwmnïau eraill megis Wiltshire Farm Foods gludo prydau parod, ffres neu wedi'u rhewi, at garreg eich drws hefyd.
Rydym hefyd yn cynnig Pryd ar Glud, gan ddanfon prydau maethlon poeth sy'n diwallu amrywiaeth eang o ddietau a chyflyrau.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.
029 20 234 234
Llun - Iau: 8.30am i 5pm
Dydd Gwener: 8.30am i 4.30pm
