Mae archwilio mewnol yn cryfhau gallu'r Cyngor i greu, amddiffyn a chynnal gwerth trwy gynnig sicrwydd, cyngor, mewnwelediad a rhagwelediad annibynnol a gwrthrychol ar sail risg. Mae gwasanaethau archwilio yn cael eu darparu yn unol â'r Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang yn Sector Cyhoeddus y DU.
Siarter Archwilio
Dogfen ffurfiol yw'r Siarter Archwilio Mewnol, sy'n cynnwys y mandad swyddogaethau, sefyllfa sefydliadol, perthnasoedd adrodd, cwmpas gwaith, mathau o wasanaethau, a manylebau eraill o ran archwilio mewnol.
Yn y Siarter Archwilio mae:
- Amlinelliad o ddiben archwilio mewnol.
- Y Mandad Archwilio Mewnol sy'n cyfeirio at awdurdod, rôl a chyfrifoldebau'r swyddogaeth archwilio mewnol, a roddwyd gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a deddfwriaeth berthnasol.
- Manylion goruchwyliaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio gyda'i gyfrifoldeb i sefydlu, cynnal a sicrhau bod gan swyddogaeth archwilio mewnol y Cyngor awdurdod digonol i gyflawni ei ddyletswyddau.
- Cyfrifoldebau Rheolwr Archwilio mewn perthynas â'r system moeseg a phroffesiynoldeb, annibyniaeth a gwrthrychedd, rheoli'r archwilio mewnol, cyfathrebu, a'r rhaglen sicrwydd ansawdd a gwella.
- Cwmpas a mathau o wasanaethau archwilio mewnol.
Lawrlwytho Siarter Archwilio 2026 i 2027 (PDF, 792 KB).
Diben
Un o'r prif ofynion sydd ar y Tîm Archwilio yw darparu cynllun o weithgareddau archwilio sicrwydd, sy'n ddigonol at ddibenion cyhoeddi barn flynyddol y Rheolwr Archwilio ar amgylchedd rheoli'r Cyngor, yn cynnwys llywodraethiant, rheoli risg a rheolaeth. Mae'r Tîm Archwilio hefyd yn rhoi sicrwydd craidd i'r Swyddog Adran 151 a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, mewn perthynas â'u cyfrifoldebau nhw.
Mae'r Tîm Archwilio hefyd yn cynnig gwasanaethau ymgynghori neu gynghori, yn gyffredinol ar gais y Tîm Rheoli am fewnwelediad annibynnol ac arweiniad ar feysydd rheoli yn ystod cyfnodau o ddatblygu / newid prosesau. Y nod yw rhoi gwerth trwy unioni'r Cynllun Archwilio â strategaethau, amcanion a risgiau'r Cyngor a thrwy gynnig sicrwydd archwilio a chymorth cadarn.
Mae'r Tîm Ymchwilio yn gwneud ystod o waith rhagweithiol ac ymatebol i atal a chanfod twyll. Mae'n cynorthwyo rheolwyr i ddatblygu a chynnal diwylliant o ddeall trwy'r sefydliad bod twyll, llwgrwobrwyo a llygredd yn annerbyniol ac y gweithredir yn gadarn i atal a chanfod colledion twyll, dwyn twyllwyr i gyfrif yn gyflym ac yn effeithiol, ac adennill unrhyw golledion.
Yr amddiffyniad cyntaf yw'r amgylchedd rheoli mewnol ym mhob cyfarwyddiaeth, sy'n gofyn am ddiwylliant o atebolrwydd, dim goddef twyll a gweithredu dulliau rheoli yn gadarn.
Lawrlwytho'r Strategaeth Archwilio (PDF, 300 KB).
Adroddiad Blynyddol
Bob blwyddyn, mae'r Rheolwr Archwilio yn cynhyrchu Adroddiad Blynyddol Archwilio Mewnol, sy'n amlinellu asesiad a barn y Rheolwr Archwilio, ar amgylchedd rheoli'r Cyngor. Mae'r adroddiad yn manylu ar y gwaith archwilio a gwblhawyd i ategu'r farn, ac yn rhoi gwybodaeth am berfformiad y Gwasanaeth Archwilio, ac adroddiad ac asesiad o gydymffurfiad parhaus â'r Safonau gofynnol.
Adroddiadau Cynnydd Archwilio
Mae Adroddiadau Cynnydd Archwilio Mewnol rheolaidd yn nodi perfformiad mewn perthynas â'r Cynllun Archwilio Mewnol. Maent yn crynhoi'r gwaith a wnaed, yr argymhellion blaenoriaeth a godwyd, y canfyddiadau sy'n gofyn am sylw brys, tueddiadau sy'n dod i'r amlwg, a chanfyddiadau gwerth am arian perthnasol ym mhob rhan o'r Cyngor. Mae adroddiad crynodeb gweithredol ynghlwm wrth yr Adroddiad Cynnydd Archwilio perthnasol ar gyfer unrhyw ymgysylltiad archwilio lle darperir barn archwilio sicrwydd 'anfoddhaol' dros y cyfnod adrodd.
- Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol - 27/01/2026 (PDF, 1014 KB)
- Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol - 25/11/2025 (PDF, 1 MB)
- Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol - 08/07/2025 (PDF, 906 KB)
- Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol - 25/03/2025 (PDF, 489 KB)
- Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol - 28/01/2025 (PDF, 841 KB)
- Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol - 26/11/2024 (PDF, 874 KB)
- Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol - 09/07/2024 (PDF, 818 KB)
- Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol - 26/03/2024 (PDF, 499 KB)
- Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol - 23/01/2024 (PDF, 809 KB)
