Perygl o ddamwain neu anaf
Os ydych chi'n gweld problem ar y ffordd neu'r palmant sy'n debygol o achosi damwain neu anaf difrifol, ffoniwch ni.
Dywedwch wrthym am broblem gydag arwyddion ffordd neu stryd
Gorau po fwyaf o wybodaeth y gallwch ei rhoi i ni. Defnyddiwch y ffurflen hon i ddweud wrthym am broblemau megis:
- arwyddion ffyrdd,
- platiau enwau strydoedd, ac
- arwyddbyst.
Gallwch dynnu sylw at y lleoliad ar y map, ychwanegu lluniau a rhoi disgrifiad i'n helpu i leoli ac ymdrin â'r broblem.
Bydd eich adroddiad cyflawn yn cael ei anfon yn syth i'n tîm priffyrdd i ymchwilio iddo.
