Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddf sy'n newid y ffordd y mae plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig yn cael cymorth.
Prif nodau'r ddeddf newydd yw:
Cyflwyno'r term Anghenion Dysgu Ychwanegol
Disodli'r term Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) ac anawsterau / anableddau dysgu gyda'r term newydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Ystod oedran 0 i 25 oed
O dan y ddeddf newydd bydd un system i gefnogi plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed.
Creu cynlluniau datblygu unigol
Bydd Cynlluniau Datblygu Unigol (CDUau) yn disodli'r cynlluniau AAA neu Anhawster Dysgu neu Anabledd (ADA) statudol ac anstatudol ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion ac addysg bellach.
Ymagwedd sy'n Canolbwyntio ar Unigolion
Cynnwys plant a phobl ifanc, a'u rhieni, yn y broses gynllunio er mwyn sicrhau bod eu safbwyntiau'n cael eu hystyried.
Dyheadau uchel a chanlyniadau gwell
Creu cynlluniau unigol gyda chanlyniadau realistig a chyraeddadwy fel bod plant a phobl ifanc yn cael cefnogaeth i gyrraedd eu llawn botensial.
System symlach
Bydd yr awdurdodau yn gwneud y broses o gynhyrchu a diwygio cynlluniau unigol yn symlach ac yn gliriach.
Mwy o gydweithio
Gwella'r broses o gydweithio a rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau. Fel y gallwn nodi anghenion mor gynnar â phosibl i ddarparu'r gefnogaeth gywir.
Datrysiad gwell ar gyfer anghytundebau
Canolbwyntio ar ddatrys anghytundebau o ran CDUau neu gymorth yn lleol. Er enghraifft, o fewn ysgolion a thrwy'r llinell gymorth ADY.
Hawliau apelio clir a chyson
Mae gan bob plentyn, person ifanc a'u rhieni'r hawl i apelio i dribiwnlys os nad oes modd datrys anghytundebau ynghylch cynlluniau datblygu unigol neu gymorth ar lefel leol.
Cod hanfodol
Bydd awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yn dilyn cod cyfreithiol i sicrhau paramedrau y gellir eu gorfodi wrth ddarparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc.
Ymwelwch â gwefan Gwasanaethau Addysg CaerdyddDolen yn agor mewn ffenestr newydd i gael rhagor o wybodaeth ar y ddeddf ADYTA newydd.
Symud o Gymorth Anghenion Addysgol Arbennig i Anghenion Dysgu Ychwanegol
Bydd dull graddol o ymdrin â'r newidiadau hyn yn cael ei gyflwyno dros 3 blynedd o fis Medi 2021.
Bydd cymorth Anghenion Addysg Arbennig yn parhau i redeg tan 2024, pan fydd cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol wedi'i fabwysiadu'n llawn.
Bydd awdurdodau lleol a lleoliadau ysgol yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr i sicrhau bod pawb yn deall y newidiadau.
Bydd teuluoedd yn gallu cael gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd. Bydd hyn yn ofyniad cyfreithiol o'r newid.
Gallai plant a phobl ifanc sydd wedi'u nodi fel rhai sydd ag anghenion addysgol arbennig, neu sydd ag anawsterau dysgu neu anableddau fod â;
- Cynllun Addysg Unigol (CAU)
- Datganiad; neu
- Cynllun dysgu a sgiliau
Bydd anghenion llawer o'r plant a'r bobl ifanc hyn yn parhau i gael eu diwallu drwy arferion ystafell ddosbarth rheolaidd o safon uchel.
Bydd ychydig o blant a phobl ifanc ag anhawster dysgu neu anabledd sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY). Mae hon yn ddarpariaeth ychwanegol neu wahanol i'r hyn sydd ar gael yn gyffredinol i blant a phobl ifanc eraill o'r un oedran.
Bydd gan y plant a'r bobl ifanc hyn gynllun datblygu unigol (CDU).
Ymwelwch â gwefan Gwasanaethau Addysg Caerdydd i gael rhagor o wybodaeth ar symud i'r system newydd.