Addysg y ddinas yn anelu at ragoriaeth
Mae ‘Caerdydd 2020’ yn adeiladu ar gynnydd sydd wedi’i wneud i wella addysg dros y blynyddoedd diwethaf, gan osod rhaglen uchelgeisiol i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghaerdydd yn cael y cyfle i lwyddo.
Mae’r strategaeth newydd yn rhestru pum nod allweddol i gyflawni’r dyheadau hyn:
Canlyniadau gwych i bob dysgwr
Gweithlu o ansawdd uchel
Amgylcheddau dysgu sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif
System ysgol sy’n gwella ei hun
Ysgolion a Chaerdydd mewn partneriaeth
Gan groesawu’r weledigaeth newydd, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry: “Mae’r camau rydyn ni wedi’u cymryd i wella safonau addysg yn dechrau cael effaith gadarnhaol.
“Rydyn ni'n gweld gwelliant sylweddol ar draws pob ‘Cyfnod Allweddol’, yn arbennig mewn perthynas â nifer y disgyblion sy’n cyflawni o leiaf 5 TGAU gradd A* i C, gan gynnwys Mathemateg a Chymraeg neu Saesneg, sy'n gynnydd o 10 y cant yn y ddinas ers 2012.
“Ond rydyn ni’n cydnabod bod llawer i’w wneud o hyd ac mae’r strategaeth ‘Caerdydd 2020’ yn nodi sut y byddwn ni, ynghyd a’n partneriaid o bob sector yn y ddinas, yn gweithio i sicrhau gwelliant parhaus mewn addysg ledled Caerdydd.
“Drwy sicrhau bod gan ein plant a’n pobl ifanc fynediad i’r addysg orau, gallwn helpu i’w rhoi yn y sefyllfa orau posibl i fanteisio ar economi ffyniannus Caerdydd.”